Llywodraeth Cymru, Rhif Ymchwil Cymdeithasol: 17/2019

Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2017 yw’r seithfed mewn cyfres o arolygon swyddi ym Mhrydain, fel y’u cofnodwyd gan y gweithwyr sy’n gwneud y swyddi. Mae’r gyfres wedi parhau dros 30 mlynedd (cynhaliwyd yr arolwg cyntaf yn 1986).  Mae’r adroddiad hwn yn darparu dadansoddiad o ganlyniadau arolygon 2006, 2012 a 2017 sy’n benodol i Gymru, gan eu cymharu â ffigurau ar gyfer Lloegr a De-ddwyrain Lloegr a Gweddill Prydain (nid yw’r ardaloedd hyn a Chymru yn gorgyffwrdd â’i gilydd).