Llywodraeth Cymru, Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 04/2017

Nod rhaglen Llywodraeth Cymru, Dechrau’n Deg, yw gwella cyfleoedd bywyd plant ifanc sy’n byw yn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae pedair hawl gan deuluoedd â phlant sydd hyd at bedair oed:

  • Gofal rhan-amser o ansawdd i blant dwy i dair oed, yn rhad ac am ddim
  • Gwasanaeth a chymorth ymweliadau iechyd gwell
  • Mynediad at gymorth rhianta
  • Cymorth iaith, lleferydd a chyfathrebu

1.2. Dechreuodd y rhaglen yn 2006/07 ac fe’i hehangwyd yn 2012. Er mai’r ymrwymiad oedd darparu gwasanaethau i 36,000 o blant, mae Dechrau’n Deg bellach yn darparu gwasanaethau i ychydig dros 38,000 o blant. Mae arfarniadau blaenorol wedi amlygu rhai effeithiau cadarnhaol, ond bu’r rhain naill ai’n effeithiau gwan iawn neu farn rhieni a staff oeddent, yn hytrach na mesurau gwrthrychol. Nod y gwerthusiad hwn yn adeiladu ar y rhain a defnyddio data ysgolion er mwyn pennu a yw deilliannau plant sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg yn wahanol i ddeilliannau plant eraill ac a ellir dweud bod hyn o ganlyniad i’r rhaglen.