Mae Astudiaeth Aml-Garfan WISERD (WMCS) yn astudiaeth hydredol flynyddol i gofnodi cynnydd plant a phobl ifanc sy’n tyfu i fyny yng Nghymru. Bob blwyddyn, rydym yn dilyn tair carfan o ysgolion ledled Cymru ac yn gofyn cwestiynau am eu profiadau o’r ysgol a’u safbwyntiau ar faterion cenedlaethol a rhyngwladol.
Yma, rydym yn darparu crynodeb o ganfyddiadau allweddol arolwg blwyddyn ysgol 2023-24
gyda’r niferoedd wedi’u talgrynnu i’r ganran gyfan agosaf. Mae crynodebau o ganlyniadau ar
gyfer ein holl gwestiynau o bob blwyddyn o’r arolwg (2012 ymlaen) ar gael ar Borth Data WISERD.