Sefydlwyd Astudiaeth Aml-Garfan Addysg WISERD (WMCS) yn 2013, ac mae’n astudiaeth hydredol o bobl ifanc yng Nghymru. Crëwyd WMCS er mwyn darparu ffynhonnell ddata gyfoethog ar gyfer ymchwilwyr addysg, yn enwedig y rhai sy’n gweithio yng Nghymru. Gwnaethpwyd hyn gan nad oedd llawer o adnoddau ar gael ar eu cyfer o ran casglu data.

Ariannwyd WMCS gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) rhwng 2013 a 2017, yna gan Brifysgol Caerdydd rhwng 2018 a 2019. Ers 2020, mae WMCS wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Arweinir WMCS gan Dr Rhian Barrance, Athro Sally Power a’r Athro Chris Taylor, o Brifysgol Caerdydd.

 

Nodau cyffredinol WMCS yw:

• Rhoi’r cyfle i gael deall beth yw safbwyntiau a phrofiadau pobl ifanc yng Nghymru

• Datblygu ffynhonnell gadarn o ddata cymaradwy y gellir eu defnyddio i lywio polisi ac arfer.

• Darparu ‘labordy rhithwir’ ar gyfer ymchwilwyr addysg a gwyddorau cymdeithasol eraill yng Nghymru a thu hwnt

 

Mae dimensiwn hydredol ac aml-garfan WMCS yn arbennig o bwysig gan ei fod yn darparu sail gadarn ar gyfer cymharu.

Mae pwysigrwydd WMCS yn debygol o gynyddu dros y blynyddoedd nesaf wrth i Gymru ymgymryd â thrawsnewidiad radical a blaengar i’r cwricwlwm ysgol. Bydd WMCS yn darparu tystiolaeth ynghylch i ba raddau y mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar brofiad pobl ifanc o addysg. Bydd Labordy Data WISERD ar Addysg yn gwella potensial o ran dadansoddi data WMCS ymhellach.

Mae ymchwilwyr blaenorol y prosiect hwn wedi’u rhestru isod:

Ed Janes, Jemma Bridgeman, Jennifer May Hampton, Catherine Foster, Constantino Dumangane Jr., Daniel Evans, Kimberly Horton, Kathryn Sharp, Kevin Smith and Mirain Rhys.

 

Cyfweliad gyda’r Athro Sally Power, Prifysgol Caerdydd

Mae’r Athro Sally Power o Brifysgol Caerdydd yn trafod rhai o ganfyddiadau diweddaraf Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD (WMCS), sy’n olrhain cynnydd plant a phobl ifanc wrth iddynt fynd drwy addysg uwchradd yng Nghymru. Mae’r Athro Power yn tynnu sylw at bwysigrwydd yr astudiaeth barhaus hon gyda’r un garfan i ddarparu tystiolaeth i lunwyr polisïau ac ymarferwyr, gan eu galluogi i roi mesurau a pholisïau ar waith i wella bywydau pobl ifanc yng Nghymru.

 

ESRC Festival of Social Sciences 2022: WMCS Webinar

Bydd y gweminar hwn yn cyflwyno Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD, sef astudiaeth hydredol o’r newid mewn canfyddiadau disgyblion ysgolion uwchradd dros y 10 mlynedd diwethaf, a bydd yn rhoi cipolwg ar sut rydym yn gweithio gydag ysgolion a llunwyr polisïau.

 




Back to project overview