Prosiectau Ymchwil

Trefnu yn ôl: |
Dychwelodd eich chwiliad 173 canlyniad
Arloesi llywodraethu cydweithredol drwy ddeialog, ystyriaeth a chreadigrwydd

Mae’r ymchwil hon yn canolbwyntio ar hyrwyddo dulliau arloesol o ymgysylltu â dinasyddion – drwy dynnu ar ddirnadaeth ac arfer gorau byd-eang, a thrwy dreialu arfer arloesol yng Nghymru. Mae’r gwaith yn ystyried sut y gall dulliau creadigol a gweledol, gan gynnwys arferion cyfranogol creadigol, megis creu collage a ffotograffiaeth, wella llywodraethu cydweithredol trwy ddwysau…

Rhwydwaith PATCCh

Ynglŷn â PATCCh   Mae’r rhwydwaith ymchwil Dulliau To Newid Hinsawdd (PATCCh) sy’n seiliedig ar Le yn uno ac yn datblygu safbwyntiau gan academyddion, ymchwilwyr ac arbenigwyr diwydiant ar gysyniadau lle a newid yn yr hinsawdd, i gyfnewid gwybodaeth am syniadau o ymdeimlad o le mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd. Mae’n pontio’r gwyddorau…

Cysylltu’r dotiau – Cysylltu llywodraethu cydweithredol â llunio polisïau yng Nghymru a thu hwnt

Er bod llywodraethu cydweithredol yn meithrin penderfyniadau ac ymgysylltu cynhwysol, mae heriau’n parhau o ran sicrhau bod gwersi yn sgil cyfranogiad dinasyddion a chymdeithas sifil yn llywio datblygiad polisïau’n uniongyrchol. Mae’r prosiect yn edrych ar sut y gellir cynllunio ac integreiddio strwythurau llywodraethu, rhwydweithiau polisi a fforymau ymgynghori presennol yn well er mwyn creu amgylchedd…

Cyfalaf Diwylliannol ac Effeithiau Lleol

Mae cyfalaf diwylliannol yn adnodd ar gyfer datblygu lleol a datblygu’n seiliedig ar leoedd ac mae Datblygu’n Seiliedig ar Ddiwylliant yn fframwaith a gynlluniwyd i ymhelaethu ar fesur ac archwilio cyfalaf diwylliannol yn empirig fel adnodd mewndarddol sy’n seiliedig ar ficro-economeg ar gyfer datblygu rhanbarthol a datblygu’n seiliedig ar leoedd. Yn y cyd-destun hwn, bydd…

Effaith Gymdeithasol-Economaidd Llesiant

Mae llesiant yn flaenoriaeth polisi graidd yng Nghymru dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015). Sefydlodd Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) ym mhob ardal awdurdod lleol gyda chyfrifoldeb statudol i gydlynu gwaith asesu a gwella llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd. Mae’r ymchwil yn cynnig persbectif newydd ar ddatblygu rhanbarthol drwy gyfuno’r polisïau hyn sy’n seiliedig ar…

Pontio i Addysg Uwch a thu hwnt: Lle, Hunaniaeth a Chyflogadwyedd Graddedigion

Bydd yr ymchwil hon yn edrych ar benderfyniadau myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru a sut maent yn pontio i addysg uwch ynghyd â’u disgwyliadau a’u dyheadau yn dilyn astudiaethau israddedig. Bydd yn archwilio i ba raddau y mae ystyriaethau cyfleoedd cyflogaeth mewn cyd-destunau lleol a chenedlaethol yn llywio penderfyniadau a phontio i AU, a dyheadau…

Gwaith Teg Cymru?

Bydd y prosiect hwn yn darparu asesiad annibynnol o’r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud tuag at wneud Cymru yn genedl gwaith teg, a beth arall sydd angen ei wneud i hyrwyddo’r agenda hwn. Bydd yr ymchwil yn cynnal dadansoddiad eilaidd o setiau data presennol ac yn casglu data meintiol newydd ar agweddau ar…

Mentrau’n Seiliedig ar Leoedd ar gyfer Diogelwch a Llesiant Cymunedol

Mae’r ymchwil hon yn ystyried pwysigrwydd lle a gofod i gymunedau, gan fynd i’r afael â heriau allweddol ynghylch allgau ac ynysu cymdeithasol, effeithiau ac ysgogwyr tlodi, a chydlyniant cymunedol. Bydd yr ymchwil yn edrych ar ddatblygiad ac esblygiad canolfannau cynnes fel mannau sydd â chynhwysedd cymdeithasol a chysylltedd cymunedol yng Nghymru. Er bod ymchwil…

Meithrin Llais y Gweithiwr

Bydd y prosiect hwn yn cynnal astudiaeth achos o drefniant Apeliadau Brys yr Ymgyrch Dillad Glân. Mae Apêl Frys yn ymateb cyflym i gais am gymorth gan weithwyr yn y diwydiant dillad pan fydd eu hawliau’n cael eu torri. Bydd y prosiect yn edrych ar effaith y system Apêl Frys wrth sicrhau Rhyddid i Gymdeithasu…

Economïau Cynaliadwy a Gwyrdd

Un o’r heriau craidd i economïau lleol yw trawsnewid i economïau cynaliadwy a gwyrdd. Gan weithio gyda Chanolfan Amgylchedd Cymru, mewn partneriaeth â’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, byddwn yn mapio ac yn asesu arloesedd a gyd-gynhyrchwyd mewn economïau lleol sy’n gysylltiedig â chynhyrchu bwyd ac ynni cynaliadwy, atal llifogydd, ymatebion i lygredd, rheoli tir ac…