Dyma gylch gwaith Rhwydwaith Ymchwil Iaith, Diwylliant a Hunaniaeth WISERD: 

  • Dod â phobl ynghyd o’r sectorau academaidd; cyhoeddus; preifat; polisi a’r trydydd sector ynghyd sydd â diddordeb mewn ymchwil.
  • Hwyluso cyfathrebu rhwng aelodau grŵp drwy gyfrwng y wefan; cyfarfodydd; cyfarfodydd cymdeithasol; seminarau; cynadleddau a dulliau eraill.
  • Rhoi lleoliad ar gyfer trafod a lledaenu ymchwil gyfredol a gorffenedig.
  • Hwyluso datblygiad cynigion ymchwil cydweithredol.
  • Cysylltu ag amcanion ehangach WISERD gan gynnwys: cynyddu ymwybyddiaeth a’r defnydd o setiau data Cymreig; meithrin gallu o fewn y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru; a rhaglen barhaus o gyfnewid gwybodaeth ac ymgysylltu.


Mae’r grŵp yn cwmpasu pob maes ymchwil sy’n ymwneud ag Iaith, Diwylliant a Hunaniaeth, ac mae’n ceisio bod mor gynhwysol â phosibl.  Yr Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth yw cadeirydd y grŵp, ac mae cydweithwyr o blith amrywiaeth o sectorau ar draws Cymru ymhlith yr aelodau.
 
Rhestr aelodaeth gyfredol o’r grŵp: 
LCI Membership List May 2019 

Cysylltwch â wiserd@caerdydd.ac.uk i gael gwybod rhagor am weithgareddau’r grŵp, neu gallwch gofrestru i dderbyn ein negeseuon ebost.