Y gorffennol yn y presennol: Ystyried gwaith codi glo a streic y glowyr yn 1984-85


Ar 2 Mawrth 2024, cafodd y 40 mlynedd ers streic y glowyr ei nodi mewn cynhadledd WISERD yn Adeilad Bute, Prifysgol Caerdydd, gydag ymgyrchwyr, undebwyr llafur, ymchwilwyr a chynhyrchwyr ffilmiau’n bresennol.

Agorwyd y gynhadledd drwy ddangos y ffilm, Breaking Point, a wnaed ac a gyflwynwyd gan y cyfarwyddwr enwog o Sweden, Kjell-Åke Andersson. Gwnaed y ffilm yn Oakdale ym mis Chwefror 1985 pan oedd y streic yn dechrau chwalu. Mae’n edrych sut y gellir cynnal cydsafiad, yn clywed barn swyddogion y Gyfrinfa ac yn edrych ar weithgarwch y grŵp menywod a oedd yn gweithio yn y gymuned.

Ar ôl gwylio’r ffilm, aeth y gynhadledd ymlaen gyda dwy sesiwn lawn a chyfres o wyth cyfarfod panel. Roedd y cyfarfodydd llawn yn ymdrin â ‘Menywod, lle a chymuned yn y streic a heddiw’, dan gadeiryddiaeth Beth Winter AS, a ‘Y Diwedd ar Lo – Strwythur Economi wedi’i Datgarboneiddio’ gan David Edgerton o King’s College Llundain.

Roedd y trafodaethau panel yn edrych ar y streic mewn cyd-destun hanesyddol ac yn ystyried pynciau perchnogaeth gyhoeddus, trefniadaeth undebau llafur a strategaeth y streic, adeiladu cydsafiad, rôl y wladwriaeth a’r cyfryngau mewn cysylltiadau diwydiannol, atgofion am y streic, y newid i strwythur y gymuned, a natur unigryw’r meysydd glo.

Yng ngofod arddangos Adeilad Bute roedd baneri Cyfrinfeydd yr NUM o bob rhan o faes glo’r De’n cael eu harddangos (ar fenthyg gan Lyfrgell Glowyr De Cymru), pob un yn unigryw ac yn llawn atgofion i bawb a oedd yn byw drwy’r streic. Roedd arddangosfa ffotograffig hefyd o gloddio am lo a’r streic, gan gynnwys gwaith Kjell-Åke Andersson. Roedd Archif Bosteri The Red Shoes hefyd yn arddangos detholiad o bosteri undebau llafur.

Cafwyd sylw i’r digwyddiad yn y cyfryngau, gan gynnwys cyfweliadau â rhai o’r siaradwyr, mewn rhaglen arbennig gan ITV Wales a hefyd ar raglen Sharp End y sianel. Roedd Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus Prifysgol Caerdydd, ac un o brif drefnwyr y digwyddiad, Steve Davies, hefyd yn rhan o banel, ar Sharp End, ynghyd â’r Dr Elin Royles, o Brifysgol Aberystwyth.

Rydym yn ddiolchgar i’r holl siaradwyr disglair a gyfrannodd at y digwyddiad, gyda llawer ohonynt yn gysylltiedig â’r undebau yn 1984 ac sy’n weithgar hyd heddiw, ac i bawb a fynychodd y gynhadledd. Heb amheuaeth, y brif neges a ddeilliodd o drafodaethau’r diwrnod oedd yr angen i edrych yn ôl i’r gorffennol a dysgu gwersi pwysig o’r dyddiau hynny, os ydym am greu cymdeithasol sy’n well i bawb.

Dysgwch ragor:

 

Image credit: Natasha Hirst


Rhannu