Newyddion

Achosion marwolaethau ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru

Mae Cip ar Ddata newydd o thema ymchwil Tai a Digartrefedd YDG Cymru yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil i achosion sylfaenol marwolaeth ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae’r brif ffynhonnell wybodaeth ar y pwnc hwn yng Nghymru yn dod o amcangyfrifon blynyddol a gynhyrchir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Diben y dadansoddiad yn y…

Archwilio cydweithredu rhyngwladol mewn ymchwil iechyd ac addysg plant

Rob French sy’n arwain thema ymchwil Addysg YDG Cymru. Yn y blog hwn, mae Rob yn disgrifio sut y bydd croestoriad data addysg ac iechyd plant yn cael ei archwilio mewn rhifyn arbennig newydd o International Journal of Population Data Science. Mae cysylltu data iechyd ac addysg plant yn ein galluogi i archwilio cyd-ddibyniaeth y ddau faes polisi…

Gweithdai Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol i gefnogi plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae Jen Keating yn Gydymaith Ymchwil o thema Addysg YDG Cymru a Labordy Data Addysg WISERD (Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru). Mewn blog newydd, mae’n disgrifio dau weithdy a arweiniwyd ganddi ym mis Tachwedd i rieni, gofalwyr, ac addysgwyr ar y ffordd orau o ddefnyddio data cenedlaethol i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol…

Cyflwyno gwaith ymchwil WISERD i Weinidog Llywodraeth Cymru

Ymwelodd Sarah Murphy AS a Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Iechyd Meddwl a Lles â sbarc|spark i gael cipolwg ar yr ymchwil ddiweddaraf. Bu ymchwilwyr WISERD yn cyflwyno canfyddiadau ar brofiadau rhieni plant niwrowahanol o’r broses gwahardd o’r ysgol a sut y gallwn ddefnyddio data gweinyddol i wella canlyniadau addysg ar gyfer plant ag anghenion dysgu…

Mae ymchwilwyr Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) wedi cyfrannu at lyfr newydd sy’n trin a thrafod y broses o adnewyddu sy’n digwydd mewn undebau

Mae undebau llafur ar draws y byd yn wynebu amrywiaeth o aflonyddwch sy’n ansefydlogi strwythurau, arferion a strategaethau traddodiadol. Mae llyfr newydd, Experimenting for Union Renewal, sy’n cynnwys pennod gan ymchwilwyr WISERD ar y sector dillad rhyngwladol, yn nodi dull newydd sy’n canolbwyntio ar arbrofi mewn ymateb i’r aflonyddwch hwn. Gan dynnu ar ddadansoddiadau manwl…

Offeryn ar-lein newydd sy’n paru pleidleiswyr â’u plaid wleidyddol ddelfrydol

Yn ystod ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol, roedd gwybodaeth wleidyddol yn dod o bob cyfeiriad, ac roedd hyn yn achosi i lawer o bobl deimlo’n ddryslyd ynglŷn â pha bleidiau oedd yn cydweddu orau â’u barn hwy. Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, mae prosiect sy’n cael ei gyd-arwain gan Brifysgol Abertawe ac yn…

Cynhadledd Flynyddol 2024 WISERD

Ar y 3ydd a’r 4ydd o Orffennaf, fe wnaethon ni gynnal ein Cynhadledd Flynyddol WISERD 2024 ym Mhrifysgol De Cymru a chroesawu dros 140 o gynadleddwyr o bob cwr o’r DU a’r tu hwnt. Daeth dros 100 o bosteri a chyflwyniadau ardderchog at ei gilydd o dan y thema eleni, sef ‘Anelu at gyflawni cymdeithas…

Y gorffennol yn y presennol: Ystyried gwaith codi glo a streic y glowyr yn 1984-85

Ar 2 Mawrth 2024, cafodd y 40 mlynedd ers streic y glowyr ei nodi mewn cynhadledd WISERD yn Adeilad Bute, Prifysgol Caerdydd, gydag ymgyrchwyr, undebwyr llafur, ymchwilwyr a chynhyrchwyr ffilmiau’n bresennol. Agorwyd y gynhadledd drwy ddangos y ffilm, Breaking Point, a wnaed ac a gyflwynwyd gan y cyfarwyddwr enwog o Sweden, Kjell-Åke Andersson. Gwnaed y…

Hacathonau Hyb PrOPEL yn helpu rheolwyr i gymryd camau i wella ansawdd swyddi

Ym mis Chwefror 2024, cynhaliodd cyd-gyfarwyddwyr WISERD, yr Athro Alan Felstead a Rhys Davies, hacathonau yn Sheffield a Belfast ar gyfer rheolwyr adnoddau dynol sydd â diddordeb mewn gwella ansawdd swyddi ar gyfer eu timau. Trefnwyd y digwyddiadau gan Hyb PrOPEL ac roedd bron i 100 o reolwyr o amrywiaeth o fusnesau yn y sector…