Mae’r prosiect hwn yn defnyddio data gweinyddol â chyswllt sydd ar gael i archwilio effeithiolrwydd y gwasanaethau a gynigir gan Gyrfa Cymru ar gyfer dilyniant parhaus pobl ifanc trwy addysg ac i gyflogaeth neu hyfforddiant/addysg bellach. Mae’r ymchwil hefyd yn archwilio sut y gall defnyddio data gweinyddol gyfrannu at ddilyniant effeithiol cleientiaid ar gyfer Gyrfa Cymru a sut y gellir defnyddio canfyddiadau ymchwil i lywio’r dewis a’r dyraniad gorau posibl o adnoddau i wasanaethau cleientiaid.