Cefndir
Mae pwysigrwydd gwaith i’w weld yn nhrafodaethau polisi’r DU ynghylch ailgodi’n gryfach, codi’r gwastad a chodi cynhyrchiant. Mae gwella bywydau gwaith hefyd ar flaen y gad o ran polisïau a lansiwyd gan lywodraethau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Nod cyffredinol yr Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth (ASC) yw casglu data arolwg cadarn ar sgiliau a phrofiadau cyflogaeth pobl sy’n gweithio ym Mhrydain. Mae’r ASC yn rhan o gyfres o arolygon o weithwyr sy’n ymestyn yn ôl dros 35 mlynedd. Mae’r arolygon trawstoriadol hyn yn cynnig ffordd o gofnodi ac egluro’r newidiadau ym mhatrymau ansawdd swyddi a sgiliau dros amser.
Mae’r Athro Alan Felstead wedi bod yn aelod o dimau’r prosiect sy’n gyfrifol am bump o’r saith arolwg yn y gyfres ASC ac mae wedi bod yn Brif Ymchwilydd ar gyfer yr arolygon a gynhaliwyd ers 2012. Mae’r gyfres yn rhan hanfodol o seilwaith ymchwil y gwyddorau cymdeithasol sydd wedi galluogi’r gymuned academaidd a llunio polisïau ehangach i fynd i’r afael â bylchau tystiolaeth mewn perthynas â gwaith, cyflogaeth a sgiliau ac sydd wedi bod yn sail i lawer o gyhoeddiadau. Cydnabuwyd pwysigrwydd academaidd y gyfres ASC yn 2014 pan ddewisodd Gwasanaeth Data’r DU y gyfres i’w chynnwys yn y ‘casgliad a guradwyd’.
Cyhoeddiadau Dan Sylw
Davies, R and Felstead, A (2023) ‘Is job quality better or worse? Insights from quiz data collected before and after the pandemic’, Industrial Relations Journal, 54(3): 203-222.
Felstead, A, Gallie, D, Green, F and Henseke, G (2020) ‘Getting the measure of employee-driven innovation and its workplace correlates’, British Journal of Industrial Relations, 58(4): 904-935.
Green, F, Felstead, A, Gallie, D and Henseke, G (2022) ‘Working still harder’, International Labor Relations Review, 75(2): 458-487.
Gallie, D, Felstead, A, Green, F and Hande, I (2017) ‘The hidden face of job insecurity’, Work, Employment and Society, 31(1): 36-53.
Henseke, G, Felstead, A, Gallie, D and Green, F (2025) ‘Degrees of demand: a task-based analysis of the British graduate labour market’, Oxford Economic Papers, 77: 144-165.
Zhou Y, Zou M, Williams MT (2024) ‘Is there a mid-career crisis? An investigation of the relationship between age and job satisfaction across occupations based on four large UK datasets’, Socio-Economic Review, online first.
Dogfennaeth, Setiau Data & Mwy
Cewch ragor o wybodaeth am y prosiect hwn drwy ymweld â Thudalen Prosiect Ymchwil ac Arloesi’r DU.
>