Tyfu i fyny yng Nghymru: llywio amseroedd ansicr | Tystiolaeth o Astudiaeth Aml-garfan WISERD Addysg

Ar ddiwedd blwyddyn ysgol 2021-22, arolygon ni bobl ifainc ym Mlynyddoedd 8, 10 a 12 am eu profiadau o ddychwelyd i’r ysgol. Mae’r pandemig wedi cyfrannu at nifer uchel o absenoldebau ysgol ac ymddygiad heriol yn yr ystafell ddosbarth a gofynnon ni i’r disgyblion am faterion yn ymwneud ag absenoldebau a sut roedden nhw’n teimlo…