Tyfu i fyny yng Nghymru: llywio amseroedd ansicr | Tystiolaeth o Astudiaeth Aml-garfan WISERD Addysg


Absenoldeb o'r ysgol ar ôl y cyfnod clo 

Ar ddiwedd blwyddyn ysgol 2021-22, arolygon ni bobl ifainc ym Mlynyddoedd 8, 10 a 12 am eu profiadau o ddychwelyd i’r ysgol. Mae’r pandemig wedi cyfrannu at nifer uchel o absenoldebau ysgol ac ymddygiad heriol yn yr ystafell ddosbarth a gofynnon ni i’r disgyblion am faterion yn ymwneud ag absenoldebau a sut roedden nhw’n teimlo y dylid mynd i’r afael ag ymddygiad gwael. Codwyd materion anodd eraill fel hil a hiliaeth, a rhywedd a rhywiaeth.  

Gofynnom hefyd iddynt am eu diddordeb a’u galluoedd yn y Gymraeg ac am y rôl y gallai ei chwarae yn eu hunaniaeth.  

Roedd ein harolwg yn cynnwys ffocws ar newid yn yr hinsawdd ac emosiynau’r disgyblion yn gysylltiedig â’r pwnc hwn. Gwnaethom hefyd fesur eu gwybodaeth am bleidleisio a phynciau gwleidyddol eraill a godwyd yn yr ysgol. 


Rhannu