Mererid Hopwood

 

Daeth yr Athro Mererid Hopwood i Gadair Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym mis Ionawr 2021. Cyn hynny, bu’n Athro Ieithoedd a’r Cwricwlwm Cymreig ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae wedi treulio ei gyrfa ym myd ieithoedd, llenyddiaeth, addysg a’r celfyddydau. Enillodd Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol a gwobr barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2016 am ei chasgliad o gerddi, Nes Draw. Bu’n fardd plant Cymru ac enillodd wobr Tir na n’Og 2018 am ysgrifennu i blant. Mae wedi cyfansoddi geiriau ar gyfer cerddorion, artistiaid gweledol a dawnswyr, ac wedi cymryd rhan mewn gwyliau llenyddol yn Ewrop, Asia a De America. Cyfieithodd nifer o weithiau llenyddol i’r Gymraeg gan gynnwys dramâu o’r Sbaeneg a’r Almaeneg ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Ddysgedig, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’r Academi Gymreig, yn Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Waldo Williams. Hi yw ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru.