Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025
Prifysgol Aberystwyth, Dydd Llun 30 Mehefin a Dydd Mawrth 1 Gorffennaf 2025
Rydyn ni’n arbennig o awyddus i gael cynigion gan ymchwilwyr ôl-raddedig, myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd ar gyfer y sesiynau Ymchwilwyr Newydd ar 30 Mehefin. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol) i greu cyfleoedd i ymchwilwyr newydd yng nghynhadledd WISERD.
Mae gennym ddiddordeb mewn clywed eich awgrymiadau ar gyfer themâu, gweithdai neu bynciau i’w trafod, gan gynnwys datblygiad gyrfaol a thwf proffesiynol. Anfonwch eich awgrymiadau drwy e-bost at: WiserdAnnualConference@cardiff.ac.uk
Mae dau opsiwn cyflwyno ar gyfer ymchwilwyr newydd:
- Gallwch gyflwyno papur (15-20 munud) (Dyddiad cau 18 Ebrill 2025)
- Gallwch gyflwyno sgwrs fflach (3 munud) (Dyddiad cau 30 Ebrill 2025)
Gwobrau: Bydd tocyn llyfr ar gyfer y Papurau a gyflwynwyd gan Ymchwilwyr Newydd a’r Sgyrsiau Fflach gan Ymchwilwyr Newydd, a noddir gan Rwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru a y Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru.
Sylwch, bydd yr holl sgyrsiau fflach a dderbynnir yn digwydd yng Nghynhadledd WISERD yn Aberystwyth ar 30 Mehefin a byddant hefyd yn cael eu cyflwyno’n awtomatig i Golocwiwm Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar 2025 Cymdeithas Ddysgedig Cymru a gynhelir ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ar 3 a 4 Gorffennaf. Bydd crynodebau a gyflwynir i’r Colocwiwm yn cael eu hadolygu a bydd hysbysiad ar wahân o ganlyniad y colocwiwm yn cael ei ddarparu.
Thema’r Gynhadledd: Cymryd rhan a gweithio mewn partneriaeth mewn cyfnod o ansicrwydd a pholareiddio
Mae’r thema ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 yn rhoi sylw i bryderon cyffredinol ynghylch rôl cymdeithas sifil mewn cyfnod o anfodlonrwydd a newid cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.
Mae’n amlygu’r sylw cynyddol sy’n cael ei roi i’r ffordd y mae sefydliadau cymdeithas sifil, y sector preifat ac asiantaethau’r llywodraeth yn cydweithio, ac mae pwyslais ar weithio mewn partneriaeth yn dod yn fwyfwy amlwg mewn polisïau. Yng Nghymru, mae hyn i’w weld mewn deddfau megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), ac mae tueddiadau tebyg hefyd i’w gweld mewn polisïau yn y DU ac Ewrop.
Bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle gwerthfawr i’r rhai sy’n gweithio yn y sector academaidd, y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ddod at ei gilydd a thrafod ymchwil o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Mae gennyn ni ddiddordeb arbennig mewn cyfraniadau sy’n ymdrin â’r pynciau canlynol:
- Cyfleoedd a heriau i ddemocratiaeth gyfranogol a chydgynghorol, gan gynnwys arferion sy’n perthyn i ddeialog (polisi) a meithrin cymuned
- Rhagolygon a gwersi ar gyfer llywodraethu cydweithredol
- Mathau o wyddoniaeth dinasyddion a’u rolau posibl
- Cyfiawnder cymdeithasol a phontio teg, gan gynnwys iechyd, nwyddau amgylcheddol a lles economaidd
- Mynediad i waith a chyflogaeth deg/annheg, gan gynnwys profiad ohono/ohoni
- Cymunedau a ymyleiddiwyd a lleisiau sy’n dod i’r amlwg
- Lle democratiaeth gydgynghorol a/neu lais democrataidd dadleuol
- Ymatebion cymdeithas sifil i ansicrwydd a pholareiddio
- Rôl technoleg mewn cymryd rhan ac ymgysylltu, gan gynnwys ei dylanwad ar y pethau hynny
Rydyn ni hefyd yn croesawu papurau sy’n berthnasol i themâu cymryd rhan a gweithio mewn partneriaeth – sy’n ymwneud â dinasyddion a/neu gymdeithas sifil – sydd ddim yn dod o dan yr is-themâu uchod. Mae croeso i chi gyflwyno papurau unigol neu gynigion ar gyfer sesiynau thema gyda hyd at bedwar panelwr.
Canllawiau cyflwyno
- Rhaid cyflwyno crynodebau ar gyfer papurau gan ddefnyddio’r ffurflen dempled atodedig. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich crynodebau fydd 9am, dydd Gwener 18 Ebrill 2025.
- Rhaid cyflwyno crynodebau ar gyfer sgyrsiau fflach 3 munud gan ddefnyddio’r ffurflen dempled arall sydd ynghlwm. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich crynodebau fydd 9am, dydd Mercher 30 Ebrill 2025.
- Gallwch gyflwyno mwy nag un crynodeb. Dylid cyflwyno pob cynnig neu syniad ar wahân. Cyflwynwch eich proforma i WiserdAnnualConference@cardiff.ac.uk
- Mae modd cyflwyno cynigion yn Gymraeg neu yn Saesneg.
- Bydd yr holl gyflwyniadau’n cael eu hadolygu gan Bwyllgor Cynhadledd WISERD a’u hystyried yn ôl eu perthnasedd, y galw, anghenion o ran datblygiad proffesiynol a’r amseru. Efallai na fydd yn bosibl cynnwys yr holl gynigion.
- Os cewch chi eich derbyn yn siaradwr, bydd angen i chi gofrestru’n gynrychiolydd yn y ffordd arferol a chadw eich lle yn ystod y cyfnod pan fyddwch chi’n gallu gwneud hynny’n gynnar (byddwn ni’n rhoi gwybod pryd y gallwch chi gadw eich lle).
- Bydd crynodebau a gyflwynir i Golocwiwm Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cael eu hadolygu a bydd hysbysiad ar wahân o ganlyniad y Colocwiwm yn cael ei ddarparu.