Hoffai WISERD eich gwahodd i’r Seminar Amser Cinio diweddaraf, a gyflwynir gan Yongchao Jing (Prifysgol Caerdydd). Cynhelir y cyflwyniad 24 Tachwedd, 12:00 – 13:00. Bydd y seminar yn cael ei gynnal ar-lein. Os hoffech chi ymuno, gofyn unrhyw gwestiynau, neu wneud ymholiadau ynglŷn â chynnal eich seminar amser cinio eich hun; cysylltwch â wiserd.events@caerdydd.ac.uk.
Pam mae gweithwyr ar gontractau cyfnod penodol yn aml yn ennill llai na’u cymheiriaid parhaol, hyd yn oed pan fydd ganddyn nhw sgiliau a chymwysterau tebyg? Ac a yw sefydliadau’r farchnad lafur a gynlluniwyd i amddiffyn gweithwyr mewn gwirionedd yn cyfrannu at yr anghydraddoldeb hwn?
Wrth i farchnadoedd llafur ddod yn fwyfwy hyblyg, mae’r rhaniad rhwng gweithwyr parhaol a gweithwyr ar gontractau cyfnod penodol wedi dod i’r amlwg fel pryder mawr. Mae gweithwyr ar gontractau cyfnod penodol yn aml yn wynebu colled sylweddol o ran cyflog, yn ogystal ag ansicrwydd swydd mwy. Mae esboniad amlwg yn priodoli’r anghydraddoldeb hwn i ddeuoliaeth sefydliadol, lle mae gweithwyr tymor penodol (pobl o’r tu allan) yn cael llai o amddiffyniadau a hawliau yn systematig na’u cymheiriaid parhaol (pobl o’r tu mewn). Ond a yw amddiffyniadau cryfach i’r rhai sydd ‘y tu fewn’ o reidrwydd yn dod ar draul y rhai sydd ‘y tu allan’? Ac a yw dadreoleiddio’r defnydd o gontractau cyfnod penodol yn ehangu’r bwlch cyflog?
Gan dynnu ar ddata traws-genedlaethol o’r Rhaglen ar gyfer Asesu Cymwyseddau Oedolion yn Rhyngwladol (PIAAC), mae’r seminar hwn yn ailedrych ar safbwyntiau damcaniaethol sy’n cystadlu â’i gilydd ar ddeuoliaeth sefydliadol ac yn ystyried sut mae sefydliadau sy’n amddiffyn pobl o’r tu mewn ac yn rheoleiddio pobl o’r tu allan yn llunio’r colled o ran cyflog contract tymor penodol.