Cyflwynir gan Katy Huxley.

Mae ymchwil yn aml yn tynnu sylw at effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a chanlyniadau o ran gwaith. Yn nata Cyfrifiad 2011 a’r data addysg a gasglwyd gan ysgolion, mae sawl ffordd o fesur dosbarth cymdeithasol ac amgylchiadau economaidd. Gellir ystyried galwedigaeth y rhieni (y Cyfrifiad) a chymhwysedd plant i gael prydau ysgol am ddim (data addysg). Nod y sesiwn hon yw dangos y gall cysylltu’r ffynonellau data hyn â’i gilydd ei gwneud yn bosibl cymharu’r dulliau mesur hyn i ragweld cyrhaeddiad disgyblion. Yn ystod y sesiwn, bydd trafodaeth ynghylch y dulliau mesur a chanfyddiadau rhagarweiniol y data ar gyfer disgyblion mewn ysgolion yng Nghymru.