Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i bobl sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli mewn cymunedau yng Nghymru neu’r gymdeithas sifil i helpu i lywio gwefan Deall Lleoedd Cymru.

Rydym eisiau bod Deall Lleoedd Cymru yn bwynt cyswllt cyntaf i gael gwybodaeth ystadegol am drefi a chymunedau mwy yng Nghymru. Bydd y wefan yn rhoi gwybodaeth am bob lle yng Nghymru sydd â 1,000 neu fwy o bobl yn byw yno. Bydd y data’n cynnwys gwybodaeth am bobl a chymunedau, cyflogaeth, teithio, addysg a sgiliau, lles, gwydnwch economaidd ac amgylcheddol, mynediad i wasanaethau, diwylliant, treftadaeth a’r iaith Gymraeg.

Bydd Deall Lleoedd Cymru yn wahanol i byrth data eraill oherwydd na fydd angen i bobl fod yn arbenigwyr i’w defnyddio. Bydd y wefan hefyd yn rhoi gwybodaeth ar lefel trefi a chymunedau mwy yn hytrach nag awdurdodau lleol. Bydd defnyddwyr yn gallu dehongli a rhyngweithio â’r data hwn mewn ffyrdd newydd a deinamig oherwydd bydd y wefan yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n debyg, y cyferbyniadau a’r berthynas rhwng lleoedd. Rydym yn arbennig o gyffrous oherwydd y bydd y wefan yn cynnwys mapiau o deithiau cymudwyr rhwng lleoedd, yn deipoleg llawn gwybodaeth ond anfeirniadol am leoedd Cymru ac yn cynnwys asesiadau am wydnwch a’r ddibyniaeth rhwng lleoedd yng Nghymru.

Sylwer y bydd y gweithdy hwn yn cael ei gynnal yn Saesneg. Fodd bynnag, byddwn yn trefnu bod y wefan yn cael ei rhoi ar brawf yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Os ydych yn siaradwr Cymraeg rhugl a bod gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch ag Elinor Shepley.

Mae’r tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ond nifer cyfyngedig sydd ar gael.