Mae llawer o ddinasyddion yn teimlo nad oes ganddynt fawr o lais, perchnogaeth a rheolaeth dros sut mae gwasanaethau hanfodol neu brosesau gwleidyddol ehangach yn cael eu darparu. Sut gall darparwyr a defnyddwyr gwasanaeth ddarparu ffyrdd newydd o gyd-gynhyrchu er mwyn llywio, dylanwadu a thrawsnewid y gwaith o ddarparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol mewn ffyrdd sy’n gwneud cymunedau lleol yn llefydd gwell i fyw ynddynt, ac sy’n meithrin ymddiriedaeth gymdeithasol? Bydd ail Gynhadledd Flynyddol Cynghrair Sylfaenol Cymru yn mynd i’r afael â’r cwestiwn hwn, gan ganolbwyntio’n rhannol, ond nid yn gyfan gwbl, ar dai cymdeithasol a gofal oedolion. Bydd hwn yn gyfle i sectorau ddysgu, lle bydd pwyslais ar gymryd rhan mewn gweithdai i geisio dod o hyd i’r datblygiadau arloesol a all sicrhau gwelliannau #LlaisPerchnogaethRheolaeth.
Llais, Perchnogaeth a Rheolaeth – Cynhadledd Flynyddol Cynghrair Sylfaenol Cymru: Rhaglen
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260.