Pedwar partner cenedlaethol ADR UK yn cyhoeddi strategaethau ar gyfer 2022-2026


ADR UK Logo

Yn ddiweddar, cyhoeddodd ADR UK strategaethau pob un o’i bedwar partner yn y DU. Bydd y rhain yn cefnogi ei genhadaeth i drawsnewid sut mae ymchwilwyr yn defnyddio data helaeth y sector cyhoeddus yn y DU.

Dyma’r tro cyntaf i strategaethau ADR Cymru, ADR yr Alban ac ADR Gogledd Iwerddon gael eu cyhoeddi. Cafodd strategaeth ADR Lloegr, a gafodd ei chyhoeddi gyntaf adeg lansio ADR Lloegr ym mis Ebrill 2021, ei hail-gyhoeddi.

Mae ADR UK yn cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU). Mae ganddo bedwar partner cenedlaethol (ADR Lloegr, ADR Gogledd Iwerddon, ADR yr Alban ac ADR Cymru). Mae hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’n sicrhau bod modd i ymchwilwyr ddefnyddio data cyrff llywodraethol mewn ffordd ddiogel, heb fawr o risg i ddeiliaid y data a’r cyhoedd.

Mae ADR Cymru’n dod ag arbenigwyr o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Abertawe a Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd ac ystadegwyr, economegwyr ac ymchwilwyr cymdeithasol o Lywodraeth Cymru ynghyd.

Dywedodd Ed Humpherson, Cyfarwyddwr Cyffredinol (Rheoleiddio) yn y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau a Llysgennad ADR UK:

A minnau’n aelod o Fwrdd Cyflawni’r Rhaglen sy’n gyfrifol am oruchwylio sut mae rhaglen ADR UK yn cael ei gyflawni, rwy’n falch o’r ffaith bod y strategaethau sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer y cyfnod buddsoddi nesaf wedi’u cyhoeddi. Rwy’n edrych ymlaen at weld yr amcanion uchelgeisiol hyn yn cael effaith. Mae gwaith ADR UK i wella capasiti i ddefnyddio data gweinyddol er lles y cyhoedd yn hanfodol.

I ddarllen y stori newyddion lawn a’r pedair strategaeth, ewch i wefan ADR UK.


Rhannu