Caerdydd yw dinas gyntaf y DU sy’n Gyfeillgar i Blant (UNICEF)


View of Cardiff skyline over the castle grounds.

Mae cyfoeth o arbenigedd yn ymchwil y gwyddorau cymdeithasol wedi helpu Caerdydd i ddod yn Ddinas gyntaf y DU sy’n Gyfeillgar i Blant, sef un o raglenni UNICEF.

Dyfarnwyd y statws o bwys i’r ddinas i gydnabod y camau y mae Cyngor Caerdydd a’i bartneriaid, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, wedi’u cymryd yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf i hyrwyddo hawliau dynol plant a phobl ifanc ar draws y ddinas.

Yn wreiddiol, ymunodd Cyngor Caerdydd a’i bartneriaid â Phwyllgor y DU rt rhaglen Dinasoedd a Chymunedau sy’n Gyfeillgar i Blant UNICEF (UNICEF y DU) yn 2017 yn rhan o garfan arloesol.

Ers hynny, mae’r Cyngor wedi bod yn gweithredu strategaethau i ymgorffori hawliau plant – fel yr amlinellwyd yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn – yn ei bolisïau a’i wasanaethau. Mae arbenigedd grwpiau sy’n gweithio ym Mharc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd wedi chwarae rhan allweddol wrth lunio Strategaeth Bod yn Gyfeillgar i Blant Caerdydd.

Mae SBARC, ar Gampws Arloesi Caerdydd, yn gartref i ymchwil sy’n arwain yn rhyngwladol ar blant, plentyndod a lles, gan gynnwys mathau o ymddygiad iechyd (DECIPHer), iechyd meddwl (Canolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc), addysg (WISERD), gofal cymdeithasol (CASCADE) datblygiad plant (Y Ganolfan Gwyddorau Datblygiad Dynol), cyflogadwyedd a sgiliau (YDG Cymru), astudiaethau cymharol rhyngwladol ar les goddrychol plant (Labordy Data Addysg WISERD), a llu o ganolfannau rhagoriaeth ar anghenion datblygiadol penodol, megis awtistiaeth ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD).

Dyma a ddywedodd yr Athro Wendy Larner, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae sicrhau dyfarniad y Ddinas gyntaf yn y DU sy’n Gyfeillgar i Blant yn glod haeddiannol iawn i Gyngor Caerdydd ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu ymroddedig sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Rydyn ni wrth ein boddau bod Prifysgol Caerdydd wedi gallu chwarae ei rhan yn y cais i gael y statws hwn. Roedd ein gwybodaeth gyffredin a’n harbenigedd yn golygu inni fod yn gynghorwyr ac yn gyfryngwyr o ran y cais i sicrhau’r statws.”

Dyma a ddywed yr Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr Academaidd SBARC “Newyddion gwych yw statws Caerdydd yn Ddinas sy’n Gyfeillgar i Blant. Mae SBARC wedi bodloni disgwyliadau ei enw drwy ysgogi cyfleoedd i gysylltu’r holl ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol â’i gilydd ar blant a phobl ifanc yn well drwy weithio’n agosach gyda chlinigwyr, ymarferwyr, llunwyr polisïau a sefydliadau cymunedol.

“Mae llawer o’r canolfannau ymchwil hyn wedi bod yn cefnogi Caerdydd sy’n Gyfeillgar i Blant ers rhai blynyddoedd, ac mae ymchwilwyr yn WISERD newydd gwblhau astudiaeth ryngwladol o Ddinasoedd sy’n Gyfeillgar i Blant. Yn anad dim, rydyn ni wrth ein boddau bod tîm Caerdydd sy’n Gyfeillgar i Blant yn gweithio gyda ni yn SBARC, ac mae hyn yn arwain at fwy byth o gydweithio ag ymchwilwyr.”

Gan weithio gyda phlant a phobl ifanc y ddinas, mae Cyngor Caerdydd wedi blaenoriaethu chwe maes blaenoriaeth: Cydweithio ac Arwain; Cyfathrebu; Diwylliant; Bod yn Iach; Y Teulu a Pherthyn; ac Addysg a Dysgu.

Dyma a ddywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: “Ers lansio Strategaeth Cyfeillgar i Blant Caerdydd, mae’r ddinas wedi cychwyn ar daith o drawsnewid a’r nod yw y bydd pob plentyn, gan gynnwys y rheini sydd fwyaf agored i niwed yn teimlo’n ddiogel, eu bod yn cael gwrandawiad, eu bod yn cael eu meithrin ac yn gallu ffynnu, sef bod yn ddinas lle bydd pawb yn parchu hawliau ei gilydd.

“Sail y newid hwn oedd datblygu diwylliant sy’n parchu hawliau ar draws y cyngor a phartneriaid ar draws y ddinas i sicrhau bod ein staff yn deall hyn ac yn hyderus ynghylch hawliau a’u hymarfer. Ategwyd hyn oll gan bolisi sydd wedi grymuso plant a phobl ifanc i gael eu cynnwys yn ystyrlon mewn penderfyniadau sydd o bwys iddynt. Mae hyn yn golygu y gall gwasanaethau ddiwallu eu hanghenion ac y gall oedolion fod yn fwy atebol am y ffordd y caiff hawliau plant a phobl ifanc eu parchu, eu diogelu a’u sicrhau.”

Un o raglenni Pwyllgor y DU ar gyfer UNICEF (UNICEF UK) sy’n gweithio gyda chynghorau i roi hawliau plant ar waith yw Dinasoedd a Chymunedau sy’n Gyfeillgar i Blant.

Diben y rhaglen yw creu dinasoedd a chymunedau yn y DU lle bydd pob plentyn – p’un a yw’n byw mewn gofal, yn defnyddio canolfan i blant, neu’n ymweld â’i lyfrgell leol – yn cael dweud ei ddweud mewn ffordd ystyrlon o ran y penderfyniadau lleol a’r lleoedd sy’n llywio ei fywyd, a’i fod yn gallu elwa go iawn ar y rhain.

Mae’r rhaglen yn rhan o Ddinasoedd sy’n Gyfeillgar i Blant – cynllun byd-eang gan UNICEF a lansiwyd ym 1996 sy’n cyrraedd mwy na 30 miliwn o blant mewn mwy na 40 o wledydd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.unicef.org.uk/cfc

 

Credyd llun:ad_foto Drwy iStock.


Rhannu