Cyflwyniad WISERD yng Nghyngres 2019 y TUC


Brighton pier at dusk

Ddydd Llun 9fed Medi, bydd rhai o ymchwilwyr WISERD Prifysgol Caerdydd, Steve Davies, Rhys Davies, Helen Blakely, Katy Huxley a Wil Chivers, yn cyflwyno gerbron Cyngres y TUC ganfyddiadau diweddaraf ein hymchwil i aelodau undebau llafur y deyrnas. Bydd 151ain gynhadledd flynyddol y gyngres yng Nghanolfan Brighton a bydd yno gannoedd o gynadleddwyr i gynrychioli pob undeb llafur yn y deyrnas.

Dros y degawdau diwethaf, mae sawl deddf wedi’i sefydlu i geisio amharu ar effeithiolrwydd undebau llafur, mae sawl diwydiant oedd yn gadarnle i’r undebau wedi diflannu ac mae nifer y swyddi achlysurol wedi cynyddu. Mae tyb bod oes yr undebau llafur wedi dod i ben. Er bod nifer yr undebau a’r aelodau wedi gostwng ers y 1908au, fodd bynnag, mae miliynau o weithwyr yn parhau i fod yn aelodau ac mae arwyddion o dwf mewn meysydd annisgwyl.

Bydd Cyfarfod Ymylol WISERD, “The report of my death has been greatly exaggerated”: The resilience and renewal of trade unions, yn ystyried dwy thema allweddol sydd wedi dod i’r amlwg yn ymchwil WISERD i gadernid parhaus yr undebau llafur: y fro a’r teulu.

Ar ben hynny, bydd y tîm yn trafod canfyddiadau dadansoddiad WISERD o gynnwys a rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol ynghylch mudiad yr undebau llafur, gan gynnwys astudiaeth o’r enw #McStrike, a sut y gall hynny helpu i adnewyddu’r rôl a chynyddu’r trefnu yn y gweithle.

Yn ystod y gynhadledd, bydd WISERD yn cyflwyno gwasanaeth rhyngweithiol newydd, UnionMaps, a fydd yn galluogi defnyddwyr i weld data am aelodau’r undebau yn ardaloedd dros 400 o awdurdodau unedol a lleol Prydain Fawr.

Bydd Ronnie Draper, Prif Ysgrifennydd Undeb y Pobyddion a’r Gweithwyr Bwyd Cysylltiedig, yn ymuno ag ymchwilwyr WISERD ar y llwyfan wrth gyflwyno’r data diweddaraf a thrafod pam nad yw’r undebau llafur wedi diflannu eto (er mawr siom i’w gelynion).

I gael y diweddaraf yn fyw o’r achlysur, dilynwch @WISERDNews a chwilio #WISERD_TUC19.

Digwyddiff Cyngres y TUC bob mis Medi gan roi cyfle i fudiad yr undebau llafur ddod ynghyd er mwyn pennu ei flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf a’r hyn y dylai ei wneud i’w cyflawni. Bydd pob undeb yn anfon cynrychiolwyr ac yn codi materion i’w trafod a’u dadlau.

Bydd Cyfarfod Ymylol WISERD yn Syndicate 3 a bydd cinio ar gael yno. 


Rhannu