Ymchwilwyr WISERD yn creu gwefan newydd i ymchwilio i hygyrchedd gwasanaethau allweddol yng Nghymru


Close-up of bike gears

Mae gwefan brototeip sy’n ymchwilio i hygyrchedd gwasanaethau allweddol yng Nghymru wedi’i datblygu gan ymchwilwyr WISERD yng Nghanolfan Ymchwil Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol Prifysgol De Cymru. Mae hyn yn rhan o raglen ymchwil barhaus sy’n ymchwilio i hygyrchedd daearyddol gwasanaethau yng Nghymru.

Mae’r wefan yn galluogi defnyddwyr i weld pa mor hygyrch yw gwasanaethau allweddol, yn ôl côd post, wrth gerdded neu feicio (gelwir hyn yn aml yn ‘teithio llesol’) a hefyd wrth yrru neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Cyfrifwyd nifer y pwyntiau gwasanaeth hygyrch a’r mathau o wasanaethau hygyrch ar gyfer teithiau sy’n para rhwng pump a 30 munud. Gallai’r dadansoddiad hwn gefnogi astudiaethau sy’n ymwneud â hyrwyddo dulliau llesol o deithio i gyfleusterau, a hynny’n genedlaethol, mewn awdurdodau lleol ac mewn ardaloedd gwleidyddol.

I gael gwybod rhagor, darllenwch y papur briffio (Price et al., 2022). Mae’r tîm ymchwil yn croesawu adborth ar y wefan brototeip hon er mwyn ei helpu i wella’r wefan yn y dyfodol ac – o bosibl – ychwanegu rhagor o adnoddau dadansoddi rhyngweithiol ati.

Cysylltwch ag aelod o’r tîm:

Mitchel Langford: mitchel.langford@southwales.ac.uk

Andrew Price: andrew.price@southwales.ac.uk

Gary Higgs: gary.higgs@southwales.ac.uk

 

Mae’r ymchwil hon yn cael ei chefnogi gan Raglen Ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD – ‘Newid Safbwyntiau ar Haeniad Dinesig a Thrwsio Sifil’ – sy’n cael ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ES/S006974/1).

 

Llun gan Wayne Bishop ar Unsplash


Rhannu