Pa mor bell allwch chi deithio o ble rydych chi’n byw ar wahanol ddulliau teithio? Mae Deall Lleoedd Cymru nawr yn dangos i chi


Mae’n debyg nad yw’n syndod clywed y gallwch deithio ymhellach mewn llai o amser wrth deithio ar drafnidiaeth breifat, megis mewn car, nag ar drafnidiaeth gyhoeddus gan ddefnyddio bws neu drên. Fodd bynnag, a ydych chi erioed wedi meddwl sut olwg sydd ar y gwahaniaeth hwn yn weledol ar gyfer y lle rydych chi’n byw neu’n gweithio ynddo?

Mae WISERD bellach wedi lansio fersiwn wedi’i diweddaru o Deall Lleoedd Cymru a all ddangos i chi.

Mae Deall Lleoedd Cymru yn wefan sy’n cyflwyno gwybodaeth am yr economi, cyfansoddiad demograffig a gwasanaethau lleol o fwy na 300 o leoedd yng Nghymru gyda phoblogaeth o dros 1,000 o breswylwyr. Mae’r fersiwn newydd o’r wefan wedi gweld diweddariad sylweddol i’r adran ‘Cysylltedd’, sy’n cynnig ymdeimlad cyffredinol o’r gallu i deithio o bob un o brif lefydd Cymru (y 193 o leoedd gyda mwy na 2,000 o drigolion).

Fel rhan o’r diweddariad, rydym wedi rhyddhau delweddau newydd sy’n nodi maint yr ardal y gellir ei chyrraedd o bob man wrth deithio ar drafnidiaeth breifat (car), trên, bws, beicio a cherdded am rhwng 10 a 90 munud.

Gellir gweld y delweddau hyn yn ôl gwahanol gyfnodau o’r dydd (bore, canol dydd, gyda’r hwyr a’r nos), cyfnodau gwahanol o’r wythnos (yn ystod yr wythnos, dydd Sadwrn a dydd Sul) ac, ar gyfer teithio ar drên a bws, yn ôl a yw’r gwasanaeth yn un uniongyrchol neu a oes angen newid.

Ar gyfer teithiau bws, rydym hefyd yn cynnwys mesur i nodi amlder y gwasanaeth y mae pob ardal yn ei dderbyn yn ystod y cyfnod dethol hwnnw.

Yn ogystal â chynhyrchu’r delweddau hyn ar gyfer pob un o brif leoedd Cymru, rydym hefyd wedi eu rhyddhau ar gyfer gorsafoedd rheilffordd Cymru, gan gynnig syniad o’r ardal y gellir ei chyrraedd o bob gorsaf yng Nghymru. Mae’r rhain i’w gweld yn yr adran ‘Ar y trên’ ar gyfer pob lle ar y wefan.

Mae’r enghraifft isod yn dangos yr ardaloedd y gellir eu cyrraedd o fewn 30 munud wrth deithio o Aberdâr ar fore yn ystod yr wythnos ar wasanaethau uniongyrchol gan ddefnyddio gwahanol ddulliau o deithio.

Ffynhonnell: Deall data Lleoedd Cymru

Dywedodd yr Athro Scott Orford “Mae’r mapiau a’r offer newydd ar wefan Deall Lleoedd Cymru yn galluogi defnyddwyr am y tro cyntaf i weld yn wirioneddol sut mae’r lleoedd y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt wedi’u cysylltu ac i weld y bylchau yn y ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn eu hardaloedd lleol.”

Gweler Gwefan Deall Lleoedd Cymru.


Rhannu