Senarios IMAJINE yn cael eu cyflwyno yng Nghynhadledd Polisi Cydlyniant yr UE


Yn nhrydedd Gynhadledd Polisi Cydlyniant yr UE yn Zagreb ym mis Tachwedd, cyflwynodd yr Athro Michael Woods ganfyddiadau prosiect IMAJINE Horizon 2020, sy’n cael ei arwain gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (CWPS) a WISERD. A hithau wedi’i threfnu ar y cyd gan Gyfarwyddiaeth Gyffredinol Polisi Rhanbarthol a Threfol y Comisiwn Ewropeaidd, y Gymdeithas Astudiaethau Rhanbarthol a Llywodraeth Croatia, daeth y gynhadledd â 150 o academyddion, llunwyr polisïau’r UE a chynrychiolwyr aelod-wladwriaethau ynghyd i drafod dyfodol polisi cydlyniant yn Ewrop a’i effaith wrth geisio mynd i’r afael ag anghydraddoldebau.

Un o brif themâu’r gynhadledd oedd ymgysylltu â mega-dueddiadau, ac aeth Michael ati i rannu senarios (a welir isod) a ddatblygwyd yn rhan o brosiect IMAJINE ar gyfer Ewrop yn 2050. Mae’r rhain yn cynnwys ‘Cadarnle Arian’ lle mae cyfoeth yn cael ei ddosbarthu’n fwy cyfartal drwy waith canoli gwleidyddol a thwf economaidd; ‘Gwarcheidwad Gwyrdd’ lle mae’r UE yn ymateb i newid yn yr hinsawdd drwy ganolbwyntio ar les a chamau gweithredu canolog er mwyn helpu’r rhanbarthau yr effeithir arnynt fwyaf; ‘Sgaffald Silicon’ lle mae rhanbarthau wedi’u noddi’n gorfforaethol yn cystadlu, sy’n arwain at fwy o anghydraddoldeb; ac ‘Enfys Glytwaith’ lle mae Ewrop yn ymrannu oherwydd gwerthoedd diwylliannol cyferbyniol. Mae’r senarios hyn yn cynrychioli syniadau gwahanol o gyfiawnder gofodol, a’r her ym maes polisi cydlyniant yr UE yw penderfynu pa fath o gyfiawnder gofodol i’w sicrhau.

Darllenwch senarios IMAJINE yma.

 

Graphic depicting IMAJINE scenarios

 

Ymddangosodd yr eitem newyddion hon yn wreiddiol ar wefan Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru.


Rhannu