Ymchwilio i anghydraddoldebau daearyddol o ran mynediad at gartrefi gofal a phreswyl


Person holding a stress ball

Mae papur newydd gan WISERD yn tynnu sylw at sut y gall dulliau daearyddol gyfrannu at ddealltwriaeth o anghydraddoldebau o ran mynediad at gartrefi gofal a phreswyl yng Nghymru.

Cynhaliwyd yr ymchwil gan gyd-gyfarwyddwyr WISERD, yr Athro Gary Higgs a Dr Mitchel Langford, ynghyd â Chysylltydd WISERD, yr Athro Mark Llewellyn, Cyfarwyddwr Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ym Mhrifysgol De Cymru ac a benodwyd yn aelod o Grŵp Arbenigol Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

Mae’r data a ddefnyddir yn ymwneud â’r sefyllfa ym mis Mawrth 2020 ac felly, i raddau helaeth, mae’n perthyn i’r cyfnod cyn y pandemig. Bydd y mapiau a ddatblygwyd yn ystod yr ymchwil yn cael eu defnyddio fel meincnod i ddeall effaith bosibl COVID-19 ac effeithiau datblygiadau ehangach ar gartrefi gofal preswyl yng Nghymru.

Gellir archwilio canfyddiadau ymchwil o’r fath mewn perthynas â thueddiadau demograffig ac iechyd hirdymor, a’r mathau o bwysau ariannol sy’n wynebu’r sector. Roedd y sector yn cael cryn sylw mewn ymchwil yn ystod y blynyddoedd cyn y pandemig a bydd y gwaith a gynhaliwyd hyd yn oed yn fwy perthnasol yn y blynyddoedd i ddod yn ôl pob tebyg.

Mae defnyddio modelau hygyrchedd yn ein galluogi i weld gwahaniaethau yn y ddarpariaeth mewn cartrefi gofal mewn ardaloedd lleol a’u harchwilio’n well. Drwy hynny, mae’n helpu cynllunwyr a llunwyr polisïau i nodi anghydraddoldebau posibl yn y ddarpariaeth ac ymateb iddynt. Yn ogystal, gallai darparwyr cartrefi gofal hefyd elwa ar ddulliau sy’n helpu i arwain y mathau o ddarpariaeth sydd eu hangen i ddiwallu anghenion y gymuned leol ac ymateb i dueddiadau demograffig.

Yn ogystal, gallai’r ymchwil hon gyfrannu at sgyrsiau ehangach ynglŷn â thrawsnewid gofal yn ein cymunedau. Yn benodol, mae hyn yn berthnasol o ran goblygiadau gofodol y newid posibl o ddarparu gofal mewn lleoliadau preswyl i ofal yn y cartref ar gyfer llawer mwy o bobl na’r niferoedd sy’n cael eu cefnogi ar hyn o bryd.

Darllenwch y papur.

 

Llun gan Matthias ZomerPexels


Rhannu