Newyddion

CWPS i arwain prosiect newydd mawr i gefnogi datblygiad cynaliadwy cynhwysol yng Nghymru Wledig

Mae tîm dan arweiniad Cyd-gyfarwyddwr WISERD-CWPS Michael Woods wedi derbyn dros £5m gan UKRI i sefydlu Cymru Wledig LPIP Rural Wales, y Bartneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol ar gyfer Cymru Wledig. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys aelodau CWPS Lowri Cunnington Wynn a Rhys Jones yn ogystal ag ymchwilwyr ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Swydd Gaerloyw…

Safbwyntiau cymdeithas sifil ar AI yn yr UE

Yn rhan o’r astudiaeth WISERD ‘Meysydd ehangu dinesig newydd: pobl, anifeiliaid a Deallusrwydd Artiffisial (AI)’, fe gyflwynon ni ymchwil newydd mewn digwyddiad WHEB ym Mrwsel y mis diwethaf. Mae’r ymchwil yn nodi barn a phryderon sefydliadau cymdeithas ddinesig (CSOau) am Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) yn yr UE. Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn deddfu er mwyn cydlynu’r fframwaith…

WISERD yn cyflwyno ymchwil cymdeithas sifil i lunwyr polisïau ym Mrwsel

Ar 25 Ionawr, cynhaliwyd gweithdy gan Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) ac Addysg Uwch Cymru Brwsel (WHEB) ar gyfer llunwyr polisïau ym Mrwsel, ac fe gyflwynwyd achos dros roi ymchwil cymdeithas sifil wrth wraidd cynlluniau ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd. Yn ddiweddarach eleni, bydd aelodau’r Cyngor Ewropeaidd yn cyfarfod i gytuno…

Cyflwynwyd ymchwil Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn y Senedd

Ar 30 Tachwedd, cyflwynodd yr Athro Mitch Langford, cyd-gyfarwyddwr WISERD ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), ymchwil WISERD o’r prosiect a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), ‘Anghydraddoldebau, colled ddinesig a lles’, i’r pwyllgor newid hinsawdd, amgylchedd a seilwaith yn y Senedd. Roedd digwyddiad Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil (ARI) y Senedd yn cynnwys…

Civil society and animal welfare lobbying in India

In October, as part of WISERD’s civil society and animal welfare research, a workshop was held in New Delhi. Academics present included co-investigators Professors Paul Chaney and Sarbeswar Sahoo, along with Research Associates Dr Pooja Sharma and Dr Debashree Saikia (pictured). Our work involves comparative analysis of developments in Wales, Scotland, England and India. We…

Papur newydd yn galw am ddefnyddio cyfiawnder gofodol fel dull i fynd i’r afael ag argyfyngau lluosog yng nghefn gwlad Prydain

Mae papur newydd gan yr Athro Michael Woods wedi’i gyhoeddi yn The Geographical Journal. Mae’r papur hwn yn cynnig mabwysiadu cyfiawnder gofodol fel dull o ddeall yr argyfyngau lluosog sy’n wynebu cefn gwlad Prydain ac i ddatblygu ymatebion polisi. Mae’n amlinellu elfennau allweddol cyfiawnder gofodol gwledig ac yn ystyried ei ddefnydd wrth ddadansoddi heriau yng…

Dr Anwen Elias yn taflu goleuni ar ymreolaeth i Corsica

Cafodd syniadau Dr. Anwen Elias ar ymreolaeth i Corsica eu cynnwys yn Nation Cymru ar 30 Medi. Bu trafodaethau am ymreolaeth Corsica yn cael eu cynnal ers 18 mis, ac mewn araith yn ddiweddar mynegodd Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron ei gefnogaeth unwaith eto i gytundeb ymreolaeth newydd. Mae Dr. Elias yn dadlau serch hynny bod y trafodaethau…

Civil society, animal welfare and Brexit

As part of a series of blog posts on WISERD’s civil society and animal welfare research, here we look at the views of campaigners with civil society organisations (CSOs) about the impact of Brexit on animal welfare. This matters, for it aligns with a key focus in the academic literature, namely, how shifting patterns and…