Newyddion

Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025

Ar 30 Mehefin ac 1 Gorffennaf, cynhaliwyd 15fed Gynhadledd Flynyddol WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan groesawu dros 130 o gynrychiolwyr. Roedd yr agenda’n cynnwys 14 sesiwn bapur, dau banel, a thri symposiwm a gweithdy o dan y thema ‘Cyfranogiad a phartneriaeth mewn cyfnod o ansicrwydd a pholareiddio’. Am y tro cyntaf erioed, bydd yr amserlen…

Gwaith ymchwil newydd ar sefyllfa gyfoes hawliau dynol pobl frodorol yn Nepal

Mae ein gwaith ymchwil newydd yn trin a thrafod sefyllfa gyfoes hawliau dynol pobl frodorol yn Nepal. I roi cyd-destun, mae gan Nepal oddeutu 26.5 miliwn o bobl frodorol, sy’n cynnwys o leiaf 35 y cant o gyfanswm y boblogaeth. Adivasi yw’r enw arall arnynt, ac mae rhai sefydliadau’n honni y byddai’r gyfran wirioneddol yn…

Dylai system sgorio newydd ar gyfer arolygiadau o gartrefi gofal gael eu hystyried ochr yn ochr â gwybodaeth am argaeledd lleol

Mae’r sector cartrefi gofal o dan bwysau yn dilyn pandemig COVID-19 ac effaith Brexit o ran prinder staff, yn enwedig y gweithlu nyrsio cofrestredig. Ar ben hynny, mae’r sector o dan bwysau ariannol tymor hwy ac yn wynebu pryderon parhaus ynghylch recriwtio staff, yn enwedig yn dilyn y newidiadau arfaethedig diweddaraf i’r polisi mewnfudo.  O…

Mynd i’r afael â heriau mwyaf argyfyngus cymdeithas

Ymchwil yn ystyried sut y gall cymunedau gydweithio i sicrhau newid cadarnhaol. Bydd academyddion yn ymchwilio i sut mae dinasyddion, sefydliadau cymdeithas sifil a llunwyr polisïau’n cydweithio i fynd i’r afael â rhai o broblemau mwyaf dybryd cymdeithas. Mae WISERD wedi sicrhau £1.6m o gyllid gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol UKRI (ESRC) ar gyfer…

Gwahaniaethu angheuol: gwaith ymchwil newydd ar sefyllfa hawliau dynol pobl ag Albinedd yn Affrica Is-Sahara

Mae fy ngwaith ymchwil newydd yn archwilio safbwyntiau cymdeithas sifil a gwladwriaethau ar statws hawliau dynol pobl ag albinedd (PWA), sef cyflwr genetig prin a nodweddir gan bigmentiad (melanin) llai neu absennol yn y gwallt, y croen a’r llygaid. Mae gan un ym mhob 20,000 o fabanod sy’n cael eu geni ledled y byd albinedd….

WISERD yn croesawu Athro Gwadd Leverhulme

Mae’n bleser gennyn ni gyhoeddi bydd y cymdeithasegydd diwylliannol, yr Athro Michèle Lamont, o Brifysgol Harvard yn ymweld â WISERD rhwng 24 a 26 Mawrth, yn rhan o’i rôl yn Athro Gwadd Leverhulme. Bydd y rhaglen o ddigwyddiadau yn cynnwys cyflwyniad a gweithdy gyda’r nos ym Mhrifysgol Caerdydd cyn i’r Athro Lamont deithio i Brifysgol…

Dysgu o brofiadau pobl hŷn a phobl anabl yn ystod y pandemig: rhagweld dyfodol gwell o ran gofal

A finnau’n berson sy’n dioddef o salwch cronig ac â system imiwnedd gwan, ro’n i’n gwarchod fy hun am gyfnodau hir yn ystod y pandemig. Yn ystod y cyfnod hwn o absenoldeb estynedig, ro’n i’n cydymdeimlo â’r bobl hŷn a’r bobl anabl hynny oedd yn cael eu hystyried a’u hadnabod i fod yn grwpiau ar…

Archwilio cydweithredu rhyngwladol mewn ymchwil iechyd ac addysg plant

Rob French sy’n arwain thema ymchwil Addysg YDG Cymru. Yn y blog hwn, mae Rob yn disgrifio sut y bydd croestoriad data addysg ac iechyd plant yn cael ei archwilio mewn rhifyn arbennig newydd o International Journal of Population Data Science. Mae cysylltu data iechyd ac addysg plant yn ein galluogi i archwilio cyd-ddibyniaeth y ddau faes polisi…

Gweithdai Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol i gefnogi plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae Jen Keating yn Gydymaith Ymchwil o thema Addysg YDG Cymru a Labordy Data Addysg WISERD (Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru). Mewn blog newydd, mae’n disgrifio dau weithdy a arweiniwyd ganddi ym mis Tachwedd i rieni, gofalwyr, ac addysgwyr ar y ffordd orau o ddefnyddio data cenedlaethol i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol…