Mae Cymdeithas sifil, a strategaethau seiliedig ar lefydd ar gyfer datblygu cynaliadwy’n cynnal astudiaethau polisi rhanbarthol yng Nghymru, y DU ac Ewrop ac ymchwil weithredol mewn sectorau sylfaenol penodol. Gan ddefnyddio dulliau arloesi cymdeithasol seiliedig ar lefydd, mae’n ystyried i ba raddau mae polisïau twf rhanbarthol yn canolbwyntio ar sectorau sylfaenol ac yn mynd i’r afael â thwf cynhwysol drwy arloesi cymdeithasol.
Y dyddiad dechrau a ddarperir yw dyddiad dechrau Canolfan Cymdeithas Sifil WISERD. Bydd gan becynnau gwaith eu dyddiadau cychwyn a gorffen unigol eu hunain sy’n dod o fewn y rhaglen ymchwil bum mlynedd.