Mae’r prosiect hwn yn archwilio buddion gwirfoddoli mewn perthynas â gwella ymgysylltiad gwleidyddol ymhlith pobl ifanc yn y DU. Pleidleisio yw’r ffordd bwysicaf a mwyaf cyffredin o gymryd rhan yn wleidyddol mewn democratiaeth, ond eto gwelir amharodrwydd digynsail ymhlith pleidleiswyr ifanc heddiw i fynd i’r blwch pleidleisio. At hynny, nid yw’r dirywiad hwn mewn ymgysylltu wedi’i gyfyngu i bleidleisio – p’un ai ymuno â chymdeithasau cymunedol megis clybiau chwaraeon neu undebau llafur sydd dan sylw, neu gymryd rhan mewn gwrthdystiadau neu lobïo gwleidyddion, mae unigolion milflwyddol yn llai tebygol o fod yn weithredol nag y bu eu rhieni neu eu neiniau a’u teidiau pan oeddent yr un oedran. Efallai mai’r hyn sy’n peri mwy o bryder byth yw bod nifer o unigolion milflwyddol sydd hyd yn oed yn llai tebygol o fod yn weithredol na’u cyfoedion, yn arbennig y bobl hynny o gefndiroedd tlotach neu’r rhai nad ydynt yn mynd i’r brifysgol.
Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod gwirfoddoli’n enghraifft o weithgaredd sy’n mynd yn groes i’r duedd hon. Mae unigolion milflwyddol o leiaf yr un mor debygol o ymuno â sefydliadau gwirfoddoli a chymryd rhan mewn gwaith gwirfoddol â phobl hŷn, ac mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu eu bod hyd yn oed yn fwy tebygol o wneud hynny. Mae gwirfoddoli nid yn unig yn weithgaredd sy’n dwyn budd mawr i gymunedau a phobl fregus yn ein cymdeithas, mae’n dwyn buddion mawr i’r gwirfoddolwr hefyd: mae’n helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy o ran gwaith tîm, arweinyddiaeth, gweithio’n annibynnol a rheoli amser; mae’n rhoi mynediad i bobl at sgiliau a phrofiadau newydd; mae’n datblygu eu hymwybyddiaeth a’u gwybodaeth am faterion cymunedol; ac mae’n ymestyn ac yn datblygu rhwydweithiau cymdeithasol. Mae’r rhain i gyd yn adnoddau gwerthfawr a all fod o fudd i’r gwirfoddolwr mewn sawl cylch bywyd, yn anad dim gwleidyddiaeth. Mae pobl sydd â sgiliau gwybyddol mwy datblygedig, sy’n ymwybodol o faterion cymunedol ac yn wybodus amdanynt, ac sydd â rhwydweithiau cymdeithasol helaeth, yn fwy tebygol o feddu ar yr adnoddau a’r cymhelliant i bleidleisio mewn etholiadau.
Ceir potensial clir, felly, mewn gwirfoddoli – a chynlluniau sy’n hyrwyddo gwirfoddoli, megis y Gwasanaeth Dinesydd Cenedlaethol – o ran ei gwneud yn haws i bobl ifanc bleidleisio a lleihau’r bwlch rhwng y bobl hen ac ifanc sy’n pleidleisio mewn etholiadau. Mae potensial hefyd i wirfoddoli fod o fudd anghymesur i bobl ifanc o gefndiroedd tlotach, gan fod ganddynt fynediad at lawer llai o ffynonellau o wybodaeth wleidyddol, sgiliau a rhwydweithiau cymdeithasol na rhywun o deulu dosbarth canol a/neu sydd wedi bod i’r brifysgol.
Mae’r prosiect hwn yn archwilio’r potensial hwnnw ac yn penderfynu a yw’n cael ei wireddu. Gan ddefnyddio Arolwg Hydredol Aelwydydd y DU (a gaiff ei adnabod hefyd fel Deall Cymdeithas), mae’n ystyried a yw gwirfoddoli’n rhoi’r sgiliau, gwybodaeth a rhwydweithiau i bobl ifanc sy’n eu gwneud yn fwy tebygol o bleidleisio, ac mae’n ystyried a yw’r budd yn arbennig o fawr ar gyfer pobl ifanc o gefndiroedd tlotach. Caiff canfyddiadau’r prosiect eu defnyddio i asesu effeithiolrwydd cynlluniau’r llywodraeth a gynlluniwyd i hyrwyddo gwirfoddoli. Gan weithio gyda phartneriaid yn y gymdeithas sifil megis Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol, bydd hefyd yn datblygu cyfres o argymhellion polisi ar gyfer llywodraethau Cymru, yr Alban a’r DU o ran eu cymorth ar gyfer cynlluniau gwirfoddoli, a sut y gallent ddefnyddio’r cynlluniau hynny i fynd i’r afael â’r gagendor cynyddol yn nifer y bobl sy’n pleidleisio, ac ymgysylltiad gwleidyddol, rhwng unigolion milflwyddol a phobl hŷn.
Dolen Twitter: #volunteering&voting