Rhagair

Yn ddiweddar, dathlodd Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD (WMCS) ei phenblwydd yn 10 oed. Astudiaeth hydredol o blant a phobl ifanc yng Nghymru yw’r WMCS.

Fe’i sefydlwyd yn 2012 gan yr Athro Sally Power a’r Athro Chris Taylor i olrhain cynnydd plant a phobl ifanc sy’n tyfu lan yng Nghymru. O dan eu stiwardiaeth mae’r astudiaeth wedi darparu cyfoeth o dystiolaeth ar fywydau pobl ifanc sydd wedi cael ei defnyddio gan ymchwilwyr, ymarferwyr a llunwyr polisi ledled Cymru.

Mae’r WMCS yn ffynhonnell unigryw o dystiolaeth ar brofiadau addysgol plant a’u safbwyntiau ar faterion cenedlaethol a rhyngwladol. Mae ei ddyluniad hydredol ac aml-garfan yn ei alluogi gymharu ar draws blynyddoedd a rhwng carfannau. Bellach, mae gennym werth degawd o ddata am farn a phrofiadau pobl ifanc o dyfu i fyny yng Nghymru, a gallwn weld sut mae dealltwriaeth a safbwyntiau plant wedi newid dros y degawd diwethaf.

Ers 2012 mae’r astudiaeth garfan wedi cael cryn ddylanwad ar addysg a pholisi plant yma yng Nghymru. Roedd yn ffynhonnell dystiolaeth arbennig o bwysig yn ystod pandemig Covid-19, wrth i ddata ar brofiad addysgol a lles pobl ifanc gael eu bwydo i grwpiau gorchwyl Llywodraeth Cymru i arwain eu hymateb i’r pandemig. Yn ogystal, fe’i defnyddiwyd i lywio datblygiad y cwricwlwm newydd yng Nghymru, gydag ymchwilwyr yn rhoi tystiolaeth ar safbwyntiau pobl ifanc i Lywodraeth Cymru drwy gydol y broses.

Mae pwysigrwydd y WMCS yn debygol o gynyddu dros y blynyddoedd nesaf wrth i Gymru drawsnewid y cwricwlwm i ysgolion. Mae’r WMCS eisoes yn cael ei chydnabod fel ffynhonnell ddata bwysig yn y maes hwn. Mae’r tîm WMCS ar hyn o brydyn gweithio gyda Phwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Senedd i roi
tystiolaeth ar i ba raddau y mae’r cwricwlwm newydd yn cyflawni ei nodau, ac mae’n darparu sesiynau briffio rheolaidd i Lywodraeth Cymru.

Wrth i’r astudiaeth symud i mewn i’w hail ddegawd, rwy’n falch ei bod yn parhau i fod yn rhan allweddol o raglen ymchwil WISERD sy’n llywio datblygiad polisi a darparu ffynhonnell allweddol o dystiolaeth ar fywydau plant yng Nghymru.

Ian Rees Jones
Cyfarwyddwr WISERD