Newyddion

Gwaith maes WISERD yn archwilio iaith ac amrywiaeth diwylliannol yng Ngorllewin India

Fel rhan o’n prosiect a ariennir gan Academi’r Gwyddorau Meddygol ar gymdeithas sifil ac ieithoedd brodorol yn India, rydyn ni wedi cynnal gweithdai ymhlith cymunedau llwythol brodorol Rajasthan a Kerala, ac wedi trafod y problemau a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu, gan gynnwys eu diwylliant, eu hiaith a’u bywyd economaidd-gymdeithasol beunyddiol. Fel cyd-destun, mae Rajasthan…

Lansiad llyfr WISERD a CARE yn dathlu cyhoeddi ‘The 21st Century Ladz’

Mae dynion ifanc, gwrywdod, addysg a chyflogaeth yn ennill sylw cymdeithasol cynyddol. Ar 17 Hydref yn sbarcIspark, lansiwyd cyhoeddiad newydd pwysig yn y maes ymchwil hwn gan Dr Richard Gater, cynorthwy-ydd ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol Oedolion (CARE) a chymrawd ymchwil ôl-ddoethurol yn WISERD gynt. Mae llyfr newydd amserol Dr Richard Gater, The 21st…

Agor drysau: sut mae SibiNet yn meithrin gwerth cymdeithasol ar gyfer cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig ym maes adeiladu

Fel rhan o fy ngwaith ymchwil ar y Prosiect WISERD newydd, Meithrin gwerth cymdeithasol a gwaith teg yn y diwydiant adeiladu yng Nghymru, a ariennir gan UKRI ESRC, rwy’n archwilio sut y gall y sector adeiladu greu cyfleoedd go iawn i bobl sy’n wynebu rhwystrau i gyflogaeth. Un enghraifft bwerus o hyn ar waith yw…

Adeiladu gwerth cymdeithasol yng Nghymru: sut mae caffael cymdeithasol yn newid adeiladu

Mae’r diwydiant adeiladu yng Nghymru yn darparu mwy nag adeiladau a seilwaith yn unig; mae hefyd yn darparu cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth i bobl sy’n wynebu rhwystrau i gyflawni eu potensial llawn. Jemma ydw i, ymchwilydd yn WISERD ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae fy ymchwil yn archwilio sut mae’r diwydiant adeiladu yng Nghymru yn creu…

Ymchwil newydd ar system fudd-daliadau ‘seiliedig ar hawliau’ Cymru

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae pwyllgorau seneddol olynol wedi argymell ehangu’r system fudd-daliadau ddatganoledig yng Nghymru. Yn 2024, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru mai ei nod oedd: ‘Dull tosturiol a chyson sy’n canolbwyntio ar y person o ddylunio a darparu budd-daliadau yng Nghymru, wedi’i ategu gan egwyddorion Siarter Budd-daliadau Cymru‘ – yn cynnwys tosturi, cydraddoldeb a hawliau…

WISERD yn cydweithio â Strike Map i integreiddio data newydd ar gryfder undebau

Mewn cydweithrediad newydd cyffrous, mae data UnionMaps WISERD wedi’u hintegreiddio i Strike Map, map o weithredu diwydiannol sy’n cael ei ysgogi a’i ariannu gan weithwyr, sydd wedi mapio 230,000 o streiciau ers 2020. Bydd ymarferoldeb cyfunol y ddau blatfform yn caniatáu i ddefnyddwyr weld cryfder undebau yn yr ardaloedd lle mae gweithredu diwydiannol yn digwydd….

YDG Cymru yn Sicrhau Cyllid Mawr i Barhau ag Ymchwil Data Hanfodol Hyd at 2031

Mae YDG Cymru wedi cael bron i £26 miliwn i barhau â’i waith arloesol gan ddefnyddio data gweinyddol i lywio polisi cyhoeddus a gwella bywydau ledled Cymru. Bydd y cyllid yn rhedeg o 2026-2031 a chafodd ei gyhoeddi’n swyddogol heddiw gan y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS yn ystod ei anerchiad i gynrychiolwyr yng Nghynhadledd…

Gall datganoli a chymdeithas sifil helpu i greu gwrth-naratif ar gyfer ceiswyr lloches

Ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y DU Ym mis Mawrth eleni, roedd dros 100,000 o bobl yn ceisio lloches yn y DU. Roedd 30% o’r bobl hyn yn byw mewn gwestai, gyda phob un wedi’u gwahardd rhag gweithio ac yn derbyn £7 y dydd i dalu am anghenion sylfaenol. Mae’r DU wedi cael dros 3,000…

Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025

Ar 30 Mehefin ac 1 Gorffennaf, cynhaliwyd 15fed Gynhadledd Flynyddol WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan groesawu dros 130 o gynrychiolwyr. Roedd yr agenda’n cynnwys 14 sesiwn bapur, dau banel, a thri symposiwm a gweithdy o dan y thema ‘Cyfranogiad a phartneriaeth mewn cyfnod o ansicrwydd a pholareiddio’. Am y tro cyntaf erioed, bydd yr amserlen…