Mae porth data WISERD DataPortal yn gymhwysiad ar y we sy’n gwella gallu ymchwilwyr i chwilio, darganfod, mapio a lawrlwytho data ymchwil economaidd-gymdeithasol sy’n ymwneud â Chymru. Y nod yw annog ymchwilwyr i ailddefnyddio ac ail-bwrpasu data sydd eisoes yn bodoli.

Pwy a’i datblygodd?

Datblygwyd Porth Data WISERD gan Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cymru a Data a Dulliau (WISERD) fel rhan o’r maes Data a Dulliau.

Pam y cafodd ei ddatblygu?

Mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth San Steffan a chynghorau ymchwil y DU i gyd yn annog ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol i ddefnyddio ffynonellau data sydd eisoes yn bodoli lle bo hynny’n bosibl. Mae hyn yn cynnwys data arolwg ar raddfa fawr a gasglwyd gan y llywodraeth (e.e. y Cyfrifiad, yr Arolwg o’r Llafurlu, Arolwg Cenedlaethol Cymru); arolygon pwrpasol a gynhaliwyd gan awdurdodau lleol a sefydliadau eraill (e.e. arolygon anghenion tai, Arolwg Oedolion Gweithredol); data gweinyddol a gesglir yn rheolaidd gan sefydliadau amrywiol megis y gymdeithas sifil a grwpiau’r trydydd sector fel rhan o’u swyddogaethau beunyddiol (e.e. data gwirfoddoli, ffigurau digartrefedd, data ar grwpiau dan anfantais); a data a gasglwyd gan ymchwilwyr y brifysgol ar brosiectau a ariennir.

Un mater gwirioneddol o ran defnyddio’r data hyn yw diffyg gwybodaeth am ba ddata sydd ar gael, p’un a yw’n addas at ddiben yr ymchwil arfaethedig, a sut i gyrchu’r data. Dyluniwyd Porth Data WISERD i’w gwneud yn haws ateb rhai o’r cwestiynau hyn drwy ddarparu mynediad at fetadata cyfoethog sy’n cydymffurfio â safonau ar amrywiaeth eang o ffynonellau data a chaniatáu i ymchwilwyr chwilio’r metadata. Mae hefyd yn borth i nifer o ddangosfyrddau a gwefannau a adeiladwyd gan WISERD sy’n caniatáu mynediad at ddata am Gymru a thu hwnt.

Cyrchu Porth Data WISERD 

Gellir dod o hyd i Borth Data WISERD yn dataportal.wiserd.ac.uk/cy.

Bydd gofyn i chi gofrestru i ddefnyddio rhannau o’r Porth Data. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio at ddibenion monitro.

Sut mae’n gweithio?

Mae DataPortal WISERD a’r gwahanol ddangosfyrddau wedi’u hysgrifennu gan ddefnyddio meddalwedd ffynhonnell agored am ddim (FOSS) ac yn rhedeg yn eich porwr gwe. Rydym yn argymell Google Chrome ar gyfer y profiad gorau er ei fod yn gydnaws â phob porwr prif ffrwd. Mae hefyd wedi’i gynllunio i redeg ar nifer o lwyfannau gan gynnwys tabledi a dyfeisiau symudol.

Beth mae’n ei wneud?

Mae gan Borth Data WISERD dair prif swyddogaeth fel a ganlyn:

i. Chwilio metadata

Mae hyn yn galluogi’r defnyddiwr i ddefnyddio allweddeiriau i chwilio am fetadata sy’n cydymffurfio â safonau, a’i ddarganfod, ar gyfer ystod eang o arolygon a gynhaliwyd gan y llywodraeth a sefydliadau eraill, gan gynnwys WISERD. Mae’r metadata’n cynnwys cwestiynau a ofynnwyd, categorïau ymateb, meintiau samplau, y daearyddiaethau y mae’r data ar gael ynddynt, a sut y gellir cyrchu’r data ffynhonnell.

ii. Dangosfyrddau Data a Llwyfannau Data

Mae’r rhain yn darparu offer i fapio, graffio a darparu allbynnau tablaidd ac ystadegol ar gyfer amrywiaeth o ddata economaidd-gymdeithasol, pwyntiau o ddiddordeb a data ffiniau i Gymru ac mewn rhai achosion i allforio’r data i’w ddadansoddi ymhellach.

iii. Offeryn Adrodd

Mae’r offeryn hwn yn caniatáu i ddefnyddwyr greu dangosfyrddau o’u data eu hunain o daenlenni Excel wedi’u llwytho i fyny ac i rannu’r dangosfyrddau hyn fel adroddiadau rhyngweithiol. Gall y dangosfyrddau gynnwys ystadegau penawdau, data tablau, graffiau a mapiau ar gyfer ardaloedd yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i ddefnyddiwr gofrestru i ddefnyddio’r offeryn hwn. Cysylltwch â Thîm Data WISERD yn yr e-bost isod am fwy o wybodaeth.

Achos defnyddiwr

Deall Lleoedd Cymru

Fel rhan o’n gwaith gyda Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Carnegie UK, a’r Sefydliad Materion Cymreig, rydym wedi creu gwefan bwrpasol sy’n anelu at fod y pwynt galw cyntaf am wybodaeth ystadegol am drefi a chymunedau yng Nghymru. Ar y wefan hon fe welwch ddata defnyddiol a gwybodaeth ddaearyddol am eich tref neu ardal leol i’ch helpu i nodi cyfleoedd i’ch cymuned. Bydd y graffeg, y mapiau a’r canllawiau yn eich helpu i archwilio’r data sydd ei angen arnoch i wneud gwahaniaeth yn y man lle’r ydych yn byw neu’n gweithio.

Beth nesaf?

Mae Porth Data WISERD yn cael ei ddatblygu ymhellach ar gyfer grwpiau cymdeithas sifil a sefydliadau’r trydydd sector sy’n dymuno gwella’u defnydd o ddata yn eu hymchwil..

Cymerwch ran

Bydd WISERD yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ar gyfer grwpiau defnyddwyr a digwyddiadau hyfforddi dros y misoedd nesaf. Os oes gennych ddiddordeb yn natblygiadau Porth Data WISERD ac yr hoffech gymryd rhan, anfonwch e-bost at Scott Orford yn OrfordS@caerdydd.ac.uk.