Am beth mae’r digwyddiad?

Bydd y gweminar hwn yn cyflwyno Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD, sef astudiaeth hydredol o’r newid mewn canfyddiadau disgyblion ysgolion uwchradd dros y 10 mlynedd diwethaf, a bydd yn rhoi cipolwg ar sut rydym yn gweithio gydag ysgolion a llunwyr polisïau.

Mae rhai o’r pynciau sy’n cael eu trafod yn cynnwys:

– Sut rydym yn arwain yr astudiaeth

– Yr amrediad o bynciau sy’n rhan o’r astudiaeth sef materion fel gwleidyddiaeth, lles a chydraddoldeb

– Cadw golwg o newidiadau wrth i’r broses o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru barhau

Mae croeso i bawb fod yn bresennol a bydd y gweminar o ddiddordeb arbennig i athrawon, llywodraethwyr ysgol, gweithwyr addysg proffesiynol a llunwyr polisïau. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael cipolwg ar y materion sy’n effeithio ar ddisgyblion. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan hefyd yn darganfod sut mae WMCS yn dod ag ymatebion ar sawl pwnc ynghyd i greu darlun o fywydau disgyblion. Yn ogystal, bydd athrawon yn dysgu sut y gall eu hysgol gymryd rhan yn y prosiect wrth symud ymlaen.

Cyflwynir y digwyddiad gan:

Ar ôl i cofrestru ar gyfer y digwyddiad, bydd dolen Zoom yn cael ei rhannu â chi ymlaen llaw.