Newyddion

Prosiect nodedig i astudio etholiad Seneddol 2026

Mae Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) UKRI wedi dyfarnu mwy na £1m i dîm ymchwil o brifysgolion Abertawe ac Aberystwyth i arwain Astudiaeth Etholiad Cymru 2026 (WES 2026), prosiect pedair blynedd a fydd yn darparu data arolwg diduedd o ansawdd uchel ar agweddau gwleidyddol ac ymddygiad pleidleisio yng Nghymru Mae’r cydweithrediad yn dwyn ynghyd…

Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025

Ar 30 Mehefin ac 1 Gorffennaf, cynhaliwyd 15fed Gynhadledd Flynyddol WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan groesawu dros 130 o gynrychiolwyr. Roedd yr agenda’n cynnwys 14 sesiwn bapur, dau banel, a thri symposiwm a gweithdy o dan y thema ‘Cyfranogiad a phartneriaeth mewn cyfnod o ansicrwydd a pholareiddio’. Am y tro cyntaf erioed, bydd yr amserlen…

Bŵtcamp Dulliau Meintiol

Rhwng 8 a 11 Gorffennaf 2025, cynhaliodd Rhwydwaith Ymchwil Gwleidyddiaeth a Llywodraethu WISERD gwrs Bŵtcamp Dulliau Meintiol ym Mhrifysgol Abertawe. Cafodd y cwrs dwys hwn ei arwain gan Dr Kevin Fahey, Athro Gwleidyddiaeth Cynorthwyol ym Mhrifysgol Nottingham, ac roedd yn cynnwys darlithoedd, arddangosiadau ymarferol, sesiynau ymarfer a gwaith grŵp. Y nod oedd rhoi hyfforddiant hanfodol…

Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 – lluniau

Cafodd Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 ei chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Llun 30 Mehefin a dydd Mawrth 1 Gorffennaf 2025. Porwch drwy’r lluniau isod i weld rhai o’n hoff atgofion o ddigwyddiad eleni.        

Yr Athro Irene Hardill o Brifysgol Northumbria yw prif siaradwr Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025

Rydyn ni wrth ein boddau’n cyhoeddi mai’r prif siaradwr ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 yw’r Athro Irene Hardill o Brifysgol Northumbria. Bydd prif gyflwyniad yr Athro Hardill yn trin a thrafod sut y gwnaeth pandemig COVID-19 ddangos rôl hanfodol cymdeithas sifil ac elusennau wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac anghenion heb eu diwallu….

Cofrestru ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod y wefan i archebu eich tocynnau rhad ac am ddim ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 bellach AR AGOR! Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal Ddydd Llun 30 Mehefin – Dydd Mawrth 1 Gorffennaf ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cadwch eich lle yma: Cynhadledd Flynyddol WISERD | Prifysgol Aberystwyth Dewiswch yr…

Mynd i’r afael â heriau mwyaf argyfyngus cymdeithas

Ymchwil yn ystyried sut y gall cymunedau gydweithio i sicrhau newid cadarnhaol. Bydd academyddion yn ymchwilio i sut mae dinasyddion, sefydliadau cymdeithas sifil a llunwyr polisïau’n cydweithio i fynd i’r afael â rhai o broblemau mwyaf dybryd cymdeithas. Mae WISERD wedi sicrhau £1.6m o gyllid gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol UKRI (ESRC) ar gyfer…

Enwebiad ar gyfer Gwobr Lyfr Wayne S. Vucinich 2025

Mae’r monograff Cultural Cold Wars and UNESCO in the Twentieth Century gan W. John Morgan, un o Gymrodyr Emeritws Ymddiriedolaeth Leverhulme yn Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), Prifysgol Caerdydd, ac Athro Emeritws ym Mhrifysgol Nottingham, wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Lyfr Wayne S. Vucinich 2025 yn yr Unol Daleithiau….

Patrymau a rhagfynegyddion cyfranogiad ym maes gwyddoniaeth ar ôl 16 oed yng Nghymru

Ar 13 Mai 2025, cyflwynodd Dr Sophie Bartlett, cydymaith ymchwil YDG Cymru yn WISERD, Prifysgol Caerdydd, ymchwil addysg yn nigwyddiad ‘Gwyddoniaeth a’r Senedd’, sef ugeinfed digwyddiad blynyddol y Gymdeithas Gemeg Frenhinol yn y Senedd ac Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd. Noddwyd y digwyddiad gan Ddirprwy Lywydd y Senedd, David Rees AS, ynghyd â Mark…

Tystiolaeth ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Tŷ’r Arglwyddi ar Weithio Gartref yn y DU

Mae’r Athro Alan Felstead wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Bwyllgor Tŷ’r Arglwyddi ar Weithio Gartref yn seiliedig ar ei ymchwil flaenorol ar weithio gartref, y mae rhywfaint ohoni wedi’i chyhoeddi gan WISERD. Mae hyn yn dilyn gwahoddiad yr Athro Felstead i roi tystiolaeth lafar i sesiwn gyntaf y Pwyllgor ddechrau mis Mawrth. Mae tystiolaeth ysgrifenedig…