Newyddion

Cyhoeddiad newydd — Commons, Citizenship and Power: Reclaiming the Margins

Mae Commons, Citizenship and Power: Reclaiming the Margins, llyfr diweddaraf yng nghyfres Cymdeithas Sifil a Newid Cymdeithasol WISERD, ar y cyd â Gwasg Policy, wedi cael ei gyhoeddi heddiw. Ers 2010, mae poblyddiaeth a gwleidyddiaeth anrhyddfrydol wedi cynyddu. Mae arweinwyr demagog yn pregethu rhethreg orsyml i ddieithrio pobl gwan er mwyn pegynnu’r ddinas a’r cefn…

Sut mae egwyl paned yn gallu eich helpu i ddysgu am effaith polisi

Mae Rhifyn Arbennig o’r gyfres ffilmiau byrion, sef Mỳg Ymchwil, wedi’i gyhoeddi ar y testun ‘Sut mae cyflawni effaith a sicrhau newid polisi‘. Er mwyn dathlu cyhoeddi’r rhifyn hwn, mae’r gyfres lawn o ffilmiau Mỳg Ymchwil wedi’i hail-ryddhau gyda golygiadau newydd. Mae’r rhain ar gael i’w gwylio yma ar sianel YouTube Prifysgol Aberystwyth. Mae Mỳg…

W. John Morgan sy’n adolygu ‘The Russo-Ukrainian War’

Cafodd adolygiad newydd o lyfr The Russo-Ukrainian War, gan W. John Morgan, Cymrawd Emeritws Leverhulme yn WISERD ei gyhoeddi yng nghyfnodolyn Eurasian Geography and Economics yn gynharach eleni. Mae’r Athro Morgan wedi cyhoeddi’n rheolaidd ar yr Undeb Sofietaidd ac ar Rwsia gyfoes. Mae ganddo ddoethuriaeth er anrhydedd o Sefydliad Cymdeithaseg Academi Gwyddorau Rwsia. Mae The…

Cyflwyno gwaith ymchwil WISERD i Weinidog Llywodraeth Cymru

Ymwelodd Sarah Murphy AS a Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Iechyd Meddwl a Lles â sbarc|spark i gael cipolwg ar yr ymchwil ddiweddaraf. Bu ymchwilwyr WISERD yn cyflwyno canfyddiadau ar brofiadau rhieni plant niwrowahanol o’r broses gwahardd o’r ysgol a sut y gallwn ddefnyddio data gweinyddol i wella canlyniadau addysg ar gyfer plant ag anghenion dysgu…

Cyd-gyfarwyddwr WISERD yn cael ei phenodi’n gadeirydd Grŵp Cynghori Democratiaeth Arloesol newydd

Llongyfarchiadau i gyd-gyfarwyddwr WISERD, Dr Anwen Elias o Brifysgol Aberystwyth, sydd wedi’i phenodi’n gadeirydd y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies. Cafodd y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth ei greu yn sgil argymhelliad yn adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol…

Mae ymchwilwyr Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) wedi cyfrannu at lyfr newydd sy’n trin a thrafod y broses o adnewyddu sy’n digwydd mewn undebau

Mae undebau llafur ar draws y byd yn wynebu amrywiaeth o aflonyddwch sy’n ansefydlogi strwythurau, arferion a strategaethau traddodiadol. Mae llyfr newydd, Experimenting for Union Renewal, sy’n cynnwys pennod gan ymchwilwyr WISERD ar y sector dillad rhyngwladol, yn nodi dull newydd sy’n canolbwyntio ar arbrofi mewn ymateb i’r aflonyddwch hwn. Gan dynnu ar ddadansoddiadau manwl…

Disability@Work gwahoddiad i gyflwyno tystiolaeth i Senedd Cymru

Gan dynnu ar eu cyflwyniadau tystiolaeth ysgrifenedig rhoddodd yr Athro Melanie Jones a Victoria Wass dystiolaeth lafar i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar y rhwystrau i gyflogaeth i bobl anabl. Yn ystod y drafodaeth fe wnaethant dynnu sylw at yr argymhellion yn y Siarter Cyflogaeth Anabledd, galw am fonitro a dadansoddi mesurau ehangach anghydraddoldeb…

7fed Cynhadledd Economi Sylfaenol

Cynhaliwyd 7fed Cynhadledd yr Economi Sylfaenol, dan y teitl ‘Gwneud i bethau weithio: arloesi cymdeithasol ar gyfer bywfywedd’ yn sbarcIspark ar 10 ac 11 Medi 2024. Daeth ag ymchwilwyr ac ymarferwyr ynghyd mewn sesiynau thematig a oedd yn archwilio materion sylfaenol ac ymyriadau o Gymru, gweddill y DU a ledled Ewrop. Ein her yw gwneud…

Alan Felstead yn cael ei gyfweld ar newyddion y BBC am yr ‘hawl i ddatgysylltu’

Mae llywodraeth newydd y DU wedi addo gweithredu i atal cartrefi rhag ‘troi’n swyddfeydd 24/7’. Mae’r risg o fod ar-lein drwy’r amser wedi cynyddu ers y pandemig gyda’r ffiniau rhwng gwaith a bywyd yn y cartref yn aneglur i lawer mwy o bobl sy’n gweithio. Mae tua chwarter y gweithwyr, er enghraifft, bellach yn dweud…

Addysg Uwch Cymru Brwsel yn cynnal WISERD ar ymweliad astudio

Ym mis Mehefin, cynhaliodd Addysg Uwch Cymru Brwsel (WHEB) grŵp o ymchwilwyr cynnar a chanol eu gyrfa o WISERD, fel rhan o’u gwaith yn cefnogi rhwydweithio ymchwilwyr ar gyfer ceisiadau cyllido yn y dyfodol i Horizon Europe a rhaglenni cyllido eraill. Cafodd y grŵp, o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, gyfarfodydd…