Newyddion

WISERD yn cydweithio â Strike Map i integreiddio data newydd ar gryfder undebau

Mewn cydweithrediad newydd cyffrous, mae data UnionMaps WISERD wedi’u hintegreiddio i Strike Map, map o weithredu diwydiannol sy’n cael ei ysgogi a’i ariannu gan weithwyr, sydd wedi mapio 230,000 o streiciau ers 2020. Bydd ymarferoldeb cyfunol y ddau blatfform yn caniatáu i ddefnyddwyr weld cryfder undebau yn yr ardaloedd lle mae gweithredu diwydiannol yn digwydd….

YDG Cymru yn Sicrhau Cyllid Mawr i Barhau ag Ymchwil Data Hanfodol Hyd at 2031

Mae YDG Cymru wedi cael bron i £26 miliwn i barhau â’i waith arloesol gan ddefnyddio data gweinyddol i lywio polisi cyhoeddus a gwella bywydau ledled Cymru. Bydd y cyllid yn rhedeg o 2026-2031 a chafodd ei gyhoeddi’n swyddogol heddiw gan y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS yn ystod ei anerchiad i gynrychiolwyr yng Nghynhadledd…

Prosiect nodedig i astudio etholiad Seneddol 2026

Mae Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) UKRI wedi dyfarnu mwy na £1m i dîm ymchwil o brifysgolion Abertawe ac Aberystwyth i arwain Astudiaeth Etholiad Cymru 2026 (WES 2026), prosiect pedair blynedd a fydd yn darparu data arolwg diduedd o ansawdd uchel ar agweddau gwleidyddol ac ymddygiad pleidleisio yng Nghymru Mae’r cydweithrediad yn dwyn ynghyd…

Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025

Ar 30 Mehefin ac 1 Gorffennaf, cynhaliwyd 15fed Gynhadledd Flynyddol WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan groesawu dros 130 o gynrychiolwyr. Roedd yr agenda’n cynnwys 14 sesiwn bapur, dau banel, a thri symposiwm a gweithdy o dan y thema ‘Cyfranogiad a phartneriaeth mewn cyfnod o ansicrwydd a pholareiddio’. Am y tro cyntaf erioed, bydd yr amserlen…

Bŵtcamp Dulliau Meintiol

Rhwng 8 a 11 Gorffennaf 2025, cynhaliodd Rhwydwaith Ymchwil Gwleidyddiaeth a Llywodraethu WISERD gwrs Bŵtcamp Dulliau Meintiol ym Mhrifysgol Abertawe. Cafodd y cwrs dwys hwn ei arwain gan Dr Kevin Fahey, Athro Gwleidyddiaeth Cynorthwyol ym Mhrifysgol Nottingham, ac roedd yn cynnwys darlithoedd, arddangosiadau ymarferol, sesiynau ymarfer a gwaith grŵp. Y nod oedd rhoi hyfforddiant hanfodol…

Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 – lluniau

Cafodd Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 ei chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Llun 30 Mehefin a dydd Mawrth 1 Gorffennaf 2025. Porwch drwy’r lluniau isod i weld rhai o’n hoff atgofion o ddigwyddiad eleni.        

Yr Athro Irene Hardill o Brifysgol Northumbria yw prif siaradwr Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025

Rydyn ni wrth ein boddau’n cyhoeddi mai’r prif siaradwr ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 yw’r Athro Irene Hardill o Brifysgol Northumbria. Bydd prif gyflwyniad yr Athro Hardill yn trin a thrafod sut y gwnaeth pandemig COVID-19 ddangos rôl hanfodol cymdeithas sifil ac elusennau wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac anghenion heb eu diwallu….

Cofrestru ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod y wefan i archebu eich tocynnau rhad ac am ddim ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 bellach AR AGOR! Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal Ddydd Llun 30 Mehefin – Dydd Mawrth 1 Gorffennaf ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cadwch eich lle yma: Cynhadledd Flynyddol WISERD | Prifysgol Aberystwyth Dewiswch yr…

Mynd i’r afael â heriau mwyaf argyfyngus cymdeithas

Ymchwil yn ystyried sut y gall cymunedau gydweithio i sicrhau newid cadarnhaol. Bydd academyddion yn ymchwilio i sut mae dinasyddion, sefydliadau cymdeithas sifil a llunwyr polisïau’n cydweithio i fynd i’r afael â rhai o broblemau mwyaf dybryd cymdeithas. Mae WISERD wedi sicrhau £1.6m o gyllid gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol UKRI (ESRC) ar gyfer…

Enwebiad ar gyfer Gwobr Lyfr Wayne S. Vucinich 2025

Mae’r monograff Cultural Cold Wars and UNESCO in the Twentieth Century gan W. John Morgan, un o Gymrodyr Emeritws Ymddiriedolaeth Leverhulme yn Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), Prifysgol Caerdydd, ac Athro Emeritws ym Mhrifysgol Nottingham, wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Lyfr Wayne S. Vucinich 2025 yn yr Unol Daleithiau….