Newyddion

Astudiaeth Aml-Garfan Addysg WISERD: 11eg Arolwg Blynyddol

Yma, rydym yn darparu crynodeb o ganfyddiadau allweddol yr 11eg arolwg (2022-23). Mae’r pynciau yn cynnwys ymddiried yn yr ysgol, hyder disgyblion, Cymraeg, gwisg ysgol, pryderon hinsawdd, gwleidyddiaeth a’r frenhiniaeth, streiciau a phrotestiadau diweddar, methu allan ar deithiau ysgol, a dyheadau disgyblion.                   Darllenwch yr adroddiad.

Ymchwil newydd y gymdeithas sifil ar ddiwylliannau ac ieithoedd brodorol yn India

Mae’r Athro Paul Chaney a’r Athro Sarbeswar Sahoo (Sefydliad Technoleg India, Delhi) wedi cael grant Her Fyd-eang newydd gan Academi’r Gwyddorau Meddygol ac maen nhw’n dechrau prosiect sy’n edrych ar gymdeithas sifil a diwylliannau ac ieithoedd brodorol yn India. Byddan nhw’n gweithio ar y cyd â Dr Reenu Punnoose (Sefydliad Technoleg India, Palakkad). Mae’r astudiaeth…

Public lecture on the future of the United Kingdom

The pressing political question of the United Kingdom’s survival will be the subject of a public lecture at Aberystwyth University. ‘Fractured Union’ will be delivered by Professor Michael Kenny, an expert on the UK constitution, national identity, and territorial politics. The lecture will be hosted by Aberystwyth University’s Centre for Welsh Politics and Society as…

Y gorffennol yn y presennol: Ystyried gwaith codi glo a streic y glowyr yn 1984-85

Ar 2 Mawrth 2024, cafodd y 40 mlynedd ers streic y glowyr ei nodi mewn cynhadledd WISERD yn Adeilad Bute, Prifysgol Caerdydd, gydag ymgyrchwyr, undebwyr llafur, ymchwilwyr a chynhyrchwyr ffilmiau’n bresennol. Agorwyd y gynhadledd drwy ddangos y ffilm, Breaking Point, a wnaed ac a gyflwynwyd gan y cyfarwyddwr enwog o Sweden, Kjell-Åke Andersson. Gwnaed y…

Oriel luniau: Y gorffennol yn y presennol

Detholiad o luniau o’n digwyddiad pen blwydd diweddar ‘Y gorffennol yn y presennol: Ystyried gwaith codi glo a streic y glowyr yn 1984-85’ a dynnwyd gan Natasha Hirst. Mae’r rhain yn cynnwys baneri o gyfrinfeydd y NUM o faes glo’r De (ar fenthyg gan Lyfrgell Glowyr De Cymru).

Hacathonau Hyb PrOPEL yn helpu rheolwyr i gymryd camau i wella ansawdd swyddi

Ym mis Chwefror 2024, cynhaliodd cyd-gyfarwyddwyr WISERD, yr Athro Alan Felstead a Rhys Davies, hacathonau yn Sheffield a Belfast ar gyfer rheolwyr adnoddau dynol sydd â diddordeb mewn gwella ansawdd swyddi ar gyfer eu timau. Trefnwyd y digwyddiadau gan Hyb PrOPEL ac roedd bron i 100 o reolwyr o amrywiaeth o fusnesau yn y sector…

Rhaglen ar ITV yn rhoi sylw i streic y glowyr rhwng 1984 a 85

Yn dilyn ein digwyddiad diweddar, ‘Y gorffennol yn y presennol: Y diwydiant glo a streic y glowyr 1984-85’ cawsom sylw ar raglen arbennig ar ITV Wales, a ddarlledwyd dydd Llun 4 Mawrth yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau 1984-85 a’u dylanwad o hyd ar economi, pobl, gwleidyddiaeth a chymunedau Cymru. Gwyliwch un o’n siaradwyr yn y digwyddiad,…

Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn cyhoeddi ei adroddiad terfynol

Ar 17 Ionawr, yn dilyn sgwrs genedlaethol ddwy flynedd o hyd, cyhoeddodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ei adroddiad. Roedd y cyhoeddiad yn amlinellu tri opsiwn posibl ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru: rhagor o ddatganoli, DU ffederal a Chymru annibynnol. Mae Cyd-gyfarwyddwr WISERD, Dr Anwen Elias, yn aelod o’r Comisiwn ac yn rhan…

CWPS i arwain prosiect newydd mawr i gefnogi datblygiad cynaliadwy cynhwysol yng Nghymru Wledig

Mae tîm dan arweiniad Cyd-gyfarwyddwr WISERD-CWPS Michael Woods wedi derbyn dros £5m gan UKRI i sefydlu Cymru Wledig LPIP Rural Wales, y Bartneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol ar gyfer Cymru Wledig. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys aelodau CWPS Lowri Cunnington Wynn a Rhys Jones yn ogystal ag ymchwilwyr ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Swydd Gaerloyw…