Newyddion

From exclusion to inclusion: the urgent need for better support in schools

On 4th March, WISERD researchers Jemma Bridgeman and Chris Taylor led a webinar for practitioners on the Excluded Lives project, for Cardiff Council. The Excluded Lives project examined school exclusion across the UK and uncovered informal practices, systemic challenges, and school staff trying to support pupils with complex needs. The data showed a picture of…

Gweithio gartref: Byrddau ystafelloedd bwyta ymhlith y lleoedd sydd hefyd yn ddesgiau swyddfa i hanner y gweithwyr

Mae hanner y bobl sy’n gweithio gartref yn gwneud hynny yn y gegin, ar fwrdd bwyta neu yng nghornel ystafell a ddefnyddir at ddibenion eraill. Dyma un o’r canlyniadau a ddaeth i’r amlwg yn Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2024, yr astudiaeth academaidd fwyaf hirsefydlog a manwl o brofiadau gweithwyr y DU. Ffrwyth gwaith academyddion o…

Yr Athro Alan Felstead yn rhoi tystiolaeth i Dŷ’r Arglwyddi

Ddydd Llun 10 Mawrth, rhoddodd yr Athro Alan Felstead – Athro Emeritws a chyn-gyd-gyfarwyddwr WISERD – dystiolaeth lafar i’r Pwyllgor Gwaith yn y Cartref yn Nhŷ’r Arglwyddi. Darlledwyd ei dystiolaeth yn fyw ar parliamentlive.tv. Penodwyd Pwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi ar Weithio yn y Cartref ar 30 Ionawr 2025 ac mae’n cael ei gadeirio gan y…

Mae WISERD yn croesawu Athro Gwadd Leverhulme

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd cymdeithasegydd diwylliannol, yr Athro Michèle Lamont, o Brifysgol Harvard yn ymweld â WISERD rhwng 24 a 26 Mawrth, fel rhan o’i Athro Gwadd Leverhulme. Bydd y rhaglen o ddigwyddiadau yn cynnwys sgwrs a gweithdy gyda’r nos ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn i’r Athro Lamont deithio i Brifysgol Bangor, lle bydd…

Adroddiad newydd am arloesi democrataidd gan Dr Anwen Elias

Dr Anwen Elias, cyd-gyfarwyddwr WISERD yng Nghanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, yw prif awdur adroddiad diweddaraf y Sefydliad Materion Cymreig (IWA): Meithrin Arloesi Democrataidd yng Nghymru: Gwersi o Bedwar Ban Byd. Bydd Dr Elias yn sgwrsio gyda Joe Rossiter, cyd-gyfarwyddwr IWA, ddydd Mawrth 4 Mawrth i gyflwyno canfyddiadau allweddol yr adroddiad ac…

Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 – galw am bapurau – dyddiad cau ESTYNEDIG

Cynhelir Cynhadledd Flynyddol WISERD eleni ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Llun 30 Mehefin a dydd Mawrth 1 Gorffennaf 2025. Thema’r gynhadledd yw ‘Cyfranogiad a phartneriaeth mewn cyfnod o raggaredd a pholareiddio’. Mae’r thema ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 yn rhoi sylw i bryderon cyffredinol ynghylch rôl cymdeithas sifil mewn cyfnod o anfodlonrwydd a newid cymdeithasol,…

Dysgu o brofiadau pobl hŷn a phobl anabl yn ystod y pandemig: rhagweld dyfodol gwell o ran gofal

A finnau’n berson sy’n dioddef o salwch cronig ac â system imiwnedd gwan, ro’n i’n gwarchod fy hun am gyfnodau hir yn ystod y pandemig. Yn ystod y cyfnod hwn o absenoldeb estynedig, ro’n i’n cydymdeimlo â’r bobl hŷn a’r bobl anabl hynny oedd yn cael eu hystyried a’u hadnabod i fod yn grwpiau ar…

Achosion marwolaethau ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru

Mae Cip ar Ddata newydd o thema ymchwil Tai a Digartrefedd YDG Cymru yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil i achosion sylfaenol marwolaeth ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae’r brif ffynhonnell wybodaeth ar y pwnc hwn yng Nghymru yn dod o amcangyfrifon blynyddol a gynhyrchir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Diben y dadansoddiad yn y…

Cyhoeddiad newydd — Commons, Citizenship and Power: Reclaiming the Margins

Mae Commons, Citizenship and Power: Reclaiming the Margins, llyfr diweddaraf yng nghyfres Cymdeithas Sifil a Newid Cymdeithasol WISERD, ar y cyd â Gwasg Policy, wedi cael ei gyhoeddi heddiw. Ers 2010, mae poblyddiaeth a gwleidyddiaeth anrhyddfrydol wedi cynyddu. Mae arweinwyr demagog yn pregethu rhethreg orsyml i ddieithrio pobl gwan er mwyn pegynnu’r ddinas a’r cefn…