Yr wythnos hon, cyflwynodd Dr Nigel Newton ganfyddiadau o’n prosiect ‘Dyfodol Llwyddiannus i Bawb’ i aelodau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r prosiect yn archwilio’r ffordd y mae’r cwricwlwm newydd yn cael ei ddatblygu mewn Ysgolion Arloesi a’r effaith bosibl ar blant o gefndiroedd difreintiedig. Mae Cwricwlwm i Gymru yn cynnig…