Newyddion

Rhyddhau ffilm ‘The World Turned Upside Down’

Mae ffilm ddogfen am ddementia a chyfathrebu o’r enw ‘The World Turned Upside Down’ yn cael ei lansio heddiw (23 Medi). Daw’r ffilm o brosiect ymchwil dementia ar raddfa fawr o’r enw IDEAL (Gwella’r profiad o ddementia a gwella bywyd egnïol: Byw’n dda gyda dementia), y mae WISERD wedi bod yn rhan ohono ers ei…

Cynhadledd Flynyddol WISERD 2022

Ar 6 a 7 Gorffennaf, daeth dros 140 o gynrychiolwyr, cyflwynwyr ac arddangoswyr o bum prifysgol bartner WISERD a thu hwnt ynghyd ym Mhrifysgol Abertawe i gynnal Cynhadledd Flynyddol gyntaf WISERD ers dechrau’r pandemig. Thema’r gynhadledd eleni oedd ‘Cymdeithas sifil a chyfranogiad: materion cydraddoldeb, hunaniaeth a chydlyniant mewn tirwedd gymdeithasol sy’n newid’, a denodd dros…

Ymgysylltu ag amgylchedd dysgu rhithwir Hwb yn ystod y cyfnodau cau ysgolion oherwydd Covid-19

Mae Dogfennaeth Deall Data newydd gan Dr Alexandra Sandu a Dr Jennifer May Hampton o Labordy Data Addysg WISERD ac a gynhyrchwyd gan dîm ymchwil addysg ADR Cymru bellach ar gael: Ymgysylltu ag amgylchedd dysgu rhithwir Hwb yn ystod y cyfnod cau ysgolion oherwydd Covid-19 . Mae’r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau cynnar ynghylch y…

New civil society research highlights state repression of human rights defenders in South Asia

New research by WISERD co-director, Professor Paul Chaney examines state and civil society organisation (CSO) perspectives on the contemporary situation of human rights defenders (HRDs) in South Asia using data submissions to the Universal Periodic Review (UPR), the United Nations five-yearly monitoring process. “Human rights defender” refers to anyone acting to: address any human right on…

Cyhoeddi erthygl newydd ar fesur hygyrchedd gwasanaethau bancio

Mae erthygl newydd, mynediad agored mewn cyfnodolyn ar fesur hygyrchedd i wasanaethau bancio gan Dr Mitchel Langford, Andrew Price a’r Athro Gary Higgs o Brifysgol De Cymru, wedi’i chyhoeddi yn ISPRS International Journal of Geo-Information. Mae’r erthygl yn dangos sut y gellir mesur hygyrchedd i ganghennau banc ar wahanol adegau o’r dydd a thrwy ddulliau…

Grŵp gwyddoniaeth drwy law dinasyddion yn croesawu’r cam nesaf wrth iddyn nhw ymchwilio i ansawdd aer lleol

Yn ddiweddar, bu ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd, Dr Nick Hacking, ynghyd ag aelodau Grŵp Gwyddoniaeth Dinasyddion y Barri, yn goruchwylio’r gwaith o osod monitor llygredd aer o safon uchel gan Think Air Ltd. Dyna oedd cam newydd yn ymchwil y grŵp i ansawdd aer lleol. Yr ymchwil barhaus hon gan y grŵp cymunedol lleol yw…

Archwilio’r cysylltiadau rhwng gwahardd o’r ysgol a digartrefedd ieuenctid

  Nod y prosiect Bywydau wedi’u Gwahardd yw deall y prosesau cyd-destunol a sefydliadol sy’n arwain at wahanol fathau o wahardd ffurfiol ac anffurfiol o’r ysgol a’r canlyniadau i bobl ifanc a waharddwyd, eu teuluoedd, ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill ledled y DU. Ymunodd Jemma Bridgeman o’r tîm Bywydau wedi’u Gwahardd ym Mhrifysgol Caerdydd â…