Newyddion

Rhaglen ar ITV yn rhoi sylw i streic y glowyr rhwng 1984 a 85

Yn dilyn ein digwyddiad diweddar, ‘Y gorffennol yn y presennol: Y diwydiant glo a streic y glowyr 1984-85’ cawsom sylw ar raglen arbennig ar ITV Wales, a ddarlledwyd dydd Llun 4 Mawrth yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau 1984-85 a’u dylanwad o hyd ar economi, pobl, gwleidyddiaeth a chymunedau Cymru. Gwyliwch un o’n siaradwyr yn y digwyddiad,…

WISERD yn cyflwyno ymchwil cymdeithas sifil i lunwyr polisïau ym Mrwsel

Ar 25 Ionawr, cynhaliwyd gweithdy gan Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) ac Addysg Uwch Cymru Brwsel (WHEB) ar gyfer llunwyr polisïau ym Mrwsel, ac fe gyflwynwyd achos dros roi ymchwil cymdeithas sifil wrth wraidd cynlluniau ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd. Yn ddiweddarach eleni, bydd aelodau’r Cyngor Ewropeaidd yn cyfarfod i gytuno…

Anabledd ac aelodaeth o undebau llafur yn y DU

Mae anabledd yn gysylltiedig ag anfantais sylweddol yn y farchnad lafur yn rhyngwladol, ond er gwaethaf y ddadl bod undebau llafur yn gweithio fel ‘cleddyf cyfiawnder’ ac yn amddiffyn y gweithwyr sydd dan anfantais fwyaf, ychydig iawn o ymchwil sydd wedi’i gwneud i’r berthynas rhwng undebau llafur ac anghydraddoldeb sy’n gysylltiedig ag anabledd yn y…

Deall bylchau cyflog ethnigrwydd yn sector cyhoeddus y DU

Mewn prosiect ymchwil diweddar ar ran Swyddfa Economeg y Gweithlu gofynnwyd i ni ddarparu trosolwg a dealltwriaeth o natur yr amrywiadau yn nhâl gweithwyr yn y sector cyhoeddus, a sut roedd hyn yn amrywio yn ôl ethnigrwydd. Wrth i’n prosiect ddod i ben, rydyn ni’n manteisio ar y cyfle hwn i fyfyrio – beth rydyn…

Angen dull newydd o weithio’n hyblyg i atal anghydraddoldeb rhag ehangu

Mae angen i’r cyfle i weithio’n hyblyg fod ar gael i bawb er mwyn osgoi ehangu anghydraddoldebau, yn ôl adroddiad gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae canfyddiadau’r grŵp gwaith a chyflogaeth ReWAGE, sy’n cynnwys yr Athro Alan Felstead o Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) un yn o’r cyd-awduron, yn nodi’r problemau…

Disability and trade union membership in the UK

Disability is associated with significant labour market disadvantage internationally but despite arguments that trade unions act as a ‘sword of justice’ and protect the most disadvantaged employees, there has been relatively limited exploration of the relationship between trade unions and disability-related labour inequality. Our latest analysis provides new evidence for the UK with important insights…

Mae ansawdd swyddi athrawon sy’n disgwyl arolygiad Ofsted, yn waeth yn ôl adroddiad

Mae ansawdd swyddi athrawon yn Lloegr, sy’n disgwyl arolygiad Ofsted yn y 12 mis nesaf, yn waeth a dwyster y gwaith yn uwch, yn ôl adroddiad. Dangosodd yr astudiaeth gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd a Choleg Prifysgol Llundain (UCL) hefyd mai prin y mae’r amodau ar gyfer gweithwyr addysgu proffesiynol wedi newid ers y pandemig…