Newyddion

Gweithio gartref: Byrddau ystafelloedd bwyta ymhlith y lleoedd sydd hefyd yn ddesgiau swyddfa i hanner y gweithwyr

Mae hanner y bobl sy’n gweithio gartref yn gwneud hynny yn y gegin, ar fwrdd bwyta neu yng nghornel ystafell a ddefnyddir at ddibenion eraill. Dyma un o’r canlyniadau a ddaeth i’r amlwg yn Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2024, yr astudiaeth academaidd fwyaf hirsefydlog a manwl o brofiadau gweithwyr y DU. Ffrwyth gwaith academyddion o…

Yr Athro Alan Felstead yn rhoi tystiolaeth i Dŷ’r Arglwyddi

Ddydd Llun 10 Mawrth, rhoddodd yr Athro Alan Felstead – Athro Emeritws a chyn-gyd-gyfarwyddwr WISERD – dystiolaeth lafar i’r Pwyllgor Gwaith yn y Cartref yn Nhŷ’r Arglwyddi. Darlledwyd ei dystiolaeth yn fyw ar parliamentlive.tv. Penodwyd Pwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi ar Weithio yn y Cartref ar 30 Ionawr 2025 ac mae’n cael ei gadeirio gan y…

Y bwlch cyflog anabledd yn y DU: beth yw rôl y sector cyhoeddus?

Er ei fod yn sylweddol mewn sawl gwlad, nid yw’r bwlch cyflog anabledd (DPG) wedi denu llawer o sylw academaidd nac ym myd pholisi yn rhyngwladol, yn enwedig o’i gymharu â nodweddion gwarchodedig eraill, megis rhywedd. Mae’r Bil Cydraddoldeb (Hil ac Anabledd) drafft diweddar a gyhoeddwyd yn Araith y Brenin 2024 yn awgrymu newid mawr…

Disability@Work gwahoddiad i gyflwyno tystiolaeth i Senedd Cymru

Gan dynnu ar eu cyflwyniadau tystiolaeth ysgrifenedig rhoddodd yr Athro Melanie Jones a Victoria Wass dystiolaeth lafar i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar y rhwystrau i gyflogaeth i bobl anabl. Yn ystod y drafodaeth fe wnaethant dynnu sylw at yr argymhellion yn y Siarter Cyflogaeth Anabledd, galw am fonitro a dadansoddi mesurau ehangach anghydraddoldeb…

7fed Cynhadledd Economi Sylfaenol

Cynhaliwyd 7fed Cynhadledd yr Economi Sylfaenol, dan y teitl ‘Gwneud i bethau weithio: arloesi cymdeithasol ar gyfer bywfywedd’ yn sbarcIspark ar 10 ac 11 Medi 2024. Daeth ag ymchwilwyr ac ymarferwyr ynghyd mewn sesiynau thematig a oedd yn archwilio materion sylfaenol ac ymyriadau o Gymru, gweddill y DU a ledled Ewrop. Ein her yw gwneud…

Alan Felstead yn cael ei gyfweld ar newyddion y BBC am yr ‘hawl i ddatgysylltu’

Mae llywodraeth newydd y DU wedi addo gweithredu i atal cartrefi rhag ‘troi’n swyddfeydd 24/7’. Mae’r risg o fod ar-lein drwy’r amser wedi cynyddu ers y pandemig gyda’r ffiniau rhwng gwaith a bywyd yn y cartref yn aneglur i lawer mwy o bobl sy’n gweithio. Mae tua chwarter y gweithwyr, er enghraifft, bellach yn dweud…

Cynhadledd Flynyddol 2024 WISERD

Ar y 3ydd a’r 4ydd o Orffennaf, fe wnaethon ni gynnal ein Cynhadledd Flynyddol WISERD 2024 ym Mhrifysgol De Cymru a chroesawu dros 140 o gynadleddwyr o bob cwr o’r DU a’r tu hwnt. Daeth dros 100 o bosteri a chyflwyniadau ardderchog at ei gilydd o dan y thema eleni, sef ‘Anelu at gyflawni cymdeithas…

Mae ansawdd swyddi athrawon yn is mewn ysgolion gwladol nag mewn ysgolion preifat

Mae astudiaeth newydd yn dangos bod 60% o athrawon mewn ysgolion gwladol yn dod adref o’r gwaith wedi ymladd bob dydd, o gymharu â 37% o athrawon mewn ysgolion preifat sydd ‘ymhlith y gorau’ Mae athrawon o ysgolion gwladol yn fwy tebygol o fod yn gweithio ar ‘gyflymder uchel iawn’ gyda llai o annibyniaeth Mae…