Newyddion

Cyhoeddi erthygl newydd ar fesur hygyrchedd gwasanaethau bancio

Mae erthygl newydd, mynediad agored mewn cyfnodolyn ar fesur hygyrchedd i wasanaethau bancio gan Dr Mitchel Langford, Andrew Price a’r Athro Gary Higgs o Brifysgol De Cymru, wedi’i chyhoeddi yn ISPRS International Journal of Geo-Information. Mae’r erthygl yn dangos sut y gellir mesur hygyrchedd i ganghennau banc ar wahanol adegau o’r dydd a thrwy ddulliau…

Grŵp gwyddoniaeth drwy law dinasyddion yn croesawu’r cam nesaf wrth iddyn nhw ymchwilio i ansawdd aer lleol

Yn ddiweddar, bu ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd, Dr Nick Hacking, ynghyd ag aelodau Grŵp Gwyddoniaeth Dinasyddion y Barri, yn goruchwylio’r gwaith o osod monitor llygredd aer o safon uchel gan Think Air Ltd. Dyna oedd cam newydd yn ymchwil y grŵp i ansawdd aer lleol. Yr ymchwil barhaus hon gan y grŵp cymunedol lleol yw…

O Dŷ’r Arglwyddi i Senedd y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau?

Ar 4 Gorffennaf, adroddwyd ar wefan newyddion Nation.Cymru bod Anas Sarwar, arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban, ac aelod o Senedd yr Alban, wedi galw am Senedd newydd o’r Cenhedloedd a’r Rhanbarthau i gymryd lle Tŷ’r Arglwyddi. Wrth siarad â’r Gymdeithas Fabian yn San Steffan, dadleuodd Anas Sarwar: ‘nad oes lle i Dŷ’r Arglwyddi,…

Ddegawd ar ôl tân Ali Enterprises, mae diffyg arswydus o ran allanfeydd tân, yn ôl gweithwyr dillad Pacistan

Mae ymchwil newydd gan yr Ymgyrch Dillad Glân a WISERD ym Mhrifysgol Caerdydd yn dangos bod angen dybryd i ehangu’r Cytundeb Rhyngwladol ym Mhacistan, cytundeb diogelwch sy’n gyfreithiol rwymol er mwyn diogelu gweithwyr. Mae 2022 yn nodi 10 mlynedd ers y tân erchyll Ali Enterprises a laddodd dros 250 o weithwyr dillad ym Mhacistan ond…

IMAJINE: Ailystyried anghydraddoldebau tiriogaethol drwy gyfiawnder gofodol

Mae’r parhad yn yr anghydraddoldebau rhwng rhanbarthau, er gwaethaf dros dri degawd o ymyriadau o dan Bolisi Cydlyniant yr UE, yn broblem o bwys i Ewrop ac mae awydd cynyddol i ailystyried dulliau gweithredu. Dros y chwe blynedd diwethaf, mae WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ceisio gwneud hynny drwy arwain prosiect mawr o’r enw IMAJINE…

Alan Felstead yn rhoi tystiolaeth i’r Senedd

Ar 11 Gorffennaf 2022, rhoddodd yr Athro Alan Felstead dystiolaeth i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am ddeddfwriaeth sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd. Mae’r ddeddfwriaeth yn rhoi partneriaethau cymdeithasol wrth wraidd dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran sut y mae hi, a chyrff cyhoeddus y mae’n eu cefnogi, yn hyrwyddo llesiant ei…

Lansiad sbarc|spark yn dathlu arloesedd

Daeth ffigyrau amlwg o fyd ymchwil y gwyddorau cymdeithasol, y llywodraeth, byd diwydiant a’r sector gwirfoddol ynghyd i ddathlu dyfodiad sbarc|spark – Cartref Arloesedd Prifysgol Caerdydd. Mae’r adeilad, sydd wedi cael ei ddisgrifio’n ‘uwch-labordy’r gymdeithas’, yn gartref i grwpiau ymchwil a phartneriaid allanol SBARC – parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd – ochr yn…

Understanding Geographical Variation in Union membership: a patchwork quilt or a regional divide?

Today (25th May), the Department of Business Energy and Industrial Strategy (BEIS) released its latest figures for trade union membership. The long-term downward trend in union membership in the UK is well known.  Based on union records, trade union membership within the UK peaked in 1979 at approximately 13.2 million. Since then, there has been…

Yr Athro Sally Power ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales

Ymunodd yr Athro Sally Power â Vaughan Roderick ar 15 Mai 2022 ar gyfer rhaglen Sunday Supplement BBC Radio Wales. Mae’r rhaglen yn cynnwys newyddion gwleidyddol, trafodaethau a dadansoddiadau, yn ogystal â chrynodeb o’r papurau Sul. Yn rôl adolygydd gwadd y papurau, trafododd yr Athro Power amrywiaeth o faterion cyfoes, gan gynnwys tegwch mewn addysg….