Yr Athro John Morgan yn cyflwyno seminarau ym Moscow


Moscow seminar

Cyflwynodd yr Athro John Morgan, Cymrawd Emeritws Leverhulme, ddau seminar ym Moscow yn ystod mis Hydref.

Roedd yr Athro Morgan ar ymweliad ymchwil â Llyfrgell Wladwriaeth Rwsia yn rhan o’i brosiect Leverhulme am UNESCO ac Asiantaethau Arbenigol eraill y Cenhedloedd Unedig a’r Rhyfel Oer Diwylliannol. Siaradodd yn gyntaf yn y Sefydliad Cymdeithaseg yn Academi Gwyddorau Rwsia. Ffrydiwyd y seminar ar ‘Y Gymdeithas Sifil, Newid Cymdeithasol a Dysgu Oedolion’ i ganolfannau rhanbarthol y Sefydliad yn St Petersburg, Rostov on Don ac Yufa Bashkortostan, gyda thua 400 o bobl yn cymryd rhan i gyd.

Roedd yr ail seminar ar ‘Athroniaeth a Deialog mewn Addysg’ ar gyfer myfyrwyr a staff Rwsiaidd a rhyngwladol ym Mhrifysgol ‘Cyfeillgarwch Pobl‘ Rwsia. Sefydlwyd hwn ym 1960 a’i enwi’n ddiweddarach er anrhydedd i Patrice Lumumba, prif weinidog cyntaf Gweriniaeth Ddemocrataidd annibynnol y Congo, a lofruddiwyd gan wrthwynebwyr gwleidyddol ym 1961.

Ffotograff: Y seminar yn y Sefydliad Cymdeithaseg, Academi Gwyddorau Rwsia, 16 Hydref 2019.


Rhannu