Cyd-destun yr ymchwil yw’r Rhyfel Oer Diwylliannol ar ôl 1945. Mae cryn lenyddiaeth ar UDA a’i hasiantaethau, fel yr Asiantaeth Cudd-wybodaeth Ganolog (CIA); ac i raddau llai ar yr Undeb Sofietaidd ac asiantaethau fel y Swyddfa Gwybodaeth Gomiwnyddol (Cominform). Mae’r defnydd o’r Cenhedloedd Unedig ac UNESCO yn y frwydr ideolegol hon, gan ddefnyddio propaganda, ‘pŵer meddal’ neu ddiplomyddiaeth ddiwylliannol, manteisio ar y celfyddydau, y gwyddorau, a bywyd deallusol wedi cael ei esgeuluso. Mae’r prosiect yn ystyried hyn trwy adolygiad beirniadol o lenyddiaeth eilaidd ac ymchwil archifol wreiddiol. Mae’n egluro ac yn gwneud cydlyniant yn fater allweddol, gan nodi gwersi ar gyfer heddiw.