Trosolwg

Mae ‘Cefn Gwlad Byd-eang:  Newid a Datblygu Gwledig yng Nghyd-destun Globaleiddio (GLOBAL-RURAL)’ yn brosiect ymchwil mawr a ariennir gan Gyngor Ymchwil Ewrop. Nod yr astudiaeth yw hybu ein dealltwriaeth o brosesau ac effeithiau globaleiddio mewn rhanbarthau gwledig, a hynny drwy ddatblygu a defnyddio dulliau cysyniadol a methodolegol newydd.

Mae globaleiddio’n cael dylanwad treiddiol o safbwynt trawsnewid economïau a chymdeithasau gwledig, a cheir goblygiadau ar gyfer yr heriau cymdeithasol mawr a ddaw yn sgil newid amgylcheddol a diogelwch adnoddau. Fodd bynnag, o’i gymharu ag astudiaethau o’r ddinas fyd-eang, ychydig o waith ymchwil sydd wedi canolbwyntio ar ‘gefn gwlad byd-eang’, ac mae diffyg integreiddiad yn yr ymchwil a wnaed eisoes.

Bydd y prosiect GLOBAL-RURAL yn datblygu safbwynt integredig drwy ddefnyddio gwaith dadansoddi perthynol (ac yn enwedig dulliau ‘theori cyfosodiad’ a ‘gwrthdopograffi’) i ganolbwyntio ar y mecanwaith gwirioneddol sy’n arwain at ‘ail-wneud’ lleoliadau gwledig drwy ymgysylltu â phrosesau globaleiddio, gan archwilio effaith gyfryngol y cyd-destun cenedlaethol a rhanbarthol a’r cyfleoedd ar gyfer gweithredu ymyriadau lleol.

Pecynnau gwaith

Mae’r prosiect wedi’i drefnu o gwmpas pum pecyn gwaith.

Pecyn Gwaith 1:  Cydosod/Ailgydosod Cefn Gwlad Byd-eang

Mae hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu’r gwaith methodolegol a chysyniadol o gymhwyso theori cyfosodiad i ddadansoddiad o’r broses o ailgyfansoddi lleoedd gwledig yng nghyd-destun globaleiddio. Bydd yn archwilio cwestiynau am arwyddocâd globaleiddio o safbwynt newid cyfansoddiad materol a mynegiannol lleoedd gwledig a’u tiriogaethu, ynghyd â chwestiynau am berfformiad a chynrychiolaeth ddisgyrsiol globaleiddio yn y gofod gwledig, ac archwilio cyn-strwythurau hanesyddol i’r ailstrwythuro cyfoes a ysgogwyd gan globaleiddio.

Caiff hyn ei wneud trwy waith ymchwil a gynhelir mewn chwe rhanbarth astudiaeth achos dangosol yn Newfoundland (Canada), Norrland (Sweden), Ynys y Gogledd (Seland Newydd), Queensland (Awstralia), Cymru (DU), a gorllewin Iwerddon.

Pecyn Gwaith 2:  Gwaith Mapio a Llunio Naratif ar gyfer Cefn Gwlad Byd-eang

Mae hwn yn defnyddio technegau Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol i fapio prosesau a rhwydweithiau globaleiddio sy’n effeithio ar leoliadau gwledig, ac i lunio naratifau o effeithiau globaleiddio ar ranbarthau gwledig ac ymatebion iddynt. Caiff data meintiol a gasglwyd o setiau data sydd eisoes yn bodoli ei ddadansoddi trwy Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol i fapio a holi llifoedd, rhwydweithiau a strwythurau byd-eang sy’n croesi’r gofod gwledig (e.e. cadwyni nwyddau bwyd-amaeth, rhwydweithiau corfforaethol, llifoedd ymfudo llafur ac amwynderau), a hynny ar raddfa fyd-eang ac ar raddfa fanylach ar gyfer astudiaethau achos detholedig.

Yn ogystal, caiff y data hyn eu cyfuno â data ansoddol a meintiol a gesglir drwy ymchwil maes ym mhecynnau gwaith 1, 3, 4 a 5 er mwyn llunio ‘naratifau’ amlgyfrwng gan ddefnyddio testun, mapiau, ffotograffau, ffilm, ffeiliau sain a geoddelweddiadau i adrodd ‘straeon’ sy’n darlunio agweddau penodol ar globaleiddio ac effeithiau ac ymatebion cymunedol.

Caiff y rhain eu cyflwyno ar wefan o safon (i’w lansio yn 2015) gyda’r nod o hyrwyddo dealltwriaeth gyhoeddus o globaleiddio mewn cyd-destun gwledig ac o ddarparu adnoddau ar gyfer llunwyr polisi, ymarferwyr, cyrff anllywodraethol a grwpiau cymunedol.

Pecyn Gwaith 3:  Gwrthdopograffi o Globaleiddio Bob Dydd

Bydd hwn yn archwilio arferion a phrofiadau o globaleiddio bob dydd mewn tref fach wledig drwy gynnal astudiaeth fanwl o’r Drenewydd yng Nghanolbarth Cymru. Bydd y gwaith ymchwil yn archwilio ymgysylltiad byd-eang arferol y dref a’i thrigolion drwy fuddsoddiadau busnes a masnach, teithio, mudo, defnyddio, diwylliant, a rhwydweithio cymdeithasol.

Bydd Pecyn Gwaith 3 yn olrhain dynameg a mynegiadau o globaleiddio bob dydd yn y Drenewydd dros y pum degawd diwethaf, archwilio’u heffaith ar ffurfweddiad cydberthnasau cymdeithasol yn y gymuned, ac ar ganfyddiadau o le a hunaniaeth leol, ac archwilio’r cysylltiadau materol ac a ddychmygir rhwng y Drenewydd a’r byd ehangach. Mae myfyriwr doethuriaeth wrthi’n cynnal astudiaeth hanesyddol gyfochrog o rwydweithiau byd-eang y Drenewydd rhwng 1860 a 1960.

Gallwch ddilyn hynt ymchwil y Drenewydd ar flog pwrpasol o’r enw, Assembling Newtown.

Pecyn Gwaith 4:  Ymgysylltiadau Byd-eang Gwahaniaethol mewn Economïau Gwledig sy’n Dod i’r Amlwg

Bydd hwn yn cymhwyso’r fethodoleg cyfosodiad a ddatblygwyd ym Mhecyn Gwaith 1 i ddadansoddiad o ymgysylltiad byd-eang gwahaniaethol cymunedau gwledig mewn economïau sy’n dod i’r amlwg yn Affrica, Asia a De America. Bydd yn mynd i’r afael â chwestiynau ynghylch sut mae prosesau a rhwydweithiau byd-eang yn dylanwadu ar daflwybrau datblygu gwledig; arwyddocâd polisïau a sefydliadau cenedlaethol a chyd-destunau rhanbarthol o ran cyfryngu ymgysylltiad byd-eang cymunedau gwledig yn y de byd-eang; sut mae cyfosodiadau bwyd-amaeth, cadwraeth a thwristiaeth fyd-eang yn cynnwys ardaloedd gwledig mewn rhwydweithiau trawswladol, a sut y mynegir y rhain fel cysylltiadau topograffig o bŵer ac anghydraddoldeb; a galluoedd actorion lleol i ymyrryd mewn prosesau globaleiddio yn y de byd-eang gwledig ac i ddefnyddio cyfosodiadau amgen ar gyfer ymgysylltu byd-eang.

Bydd y pecyn gwaith yn cynnwys ymchwil astudiaeth achos ym Mrasil a Tsieina mewn cysylltiad â phartneriaid lleol. Bydd myfyriwr PhD cysylltiedig yn cynnal astudiaeth ethnograffig gyfochrog yn Tanzania.

Pecyn Gwaith 5:  Cyfosodiadau Gwledig a Heriau Byd-eang Sylfaenol

Bydd hwn yn archwilio’r dulliau dadleuol o weithredu cynlluniau mewn lleoliadau gwledig i fynd i’r afael â ‘heriau byd-eang’ fel y newid yn yr hinsawdd, diogelwch bwyd, sefydlogrwydd ynni, a’r cyflenwad dŵr, gan gynnwys cynlluniau ynni adnewyddadwy, echdynnu mwynau a nwy, cronfeydd dŵr newydd, tyfu biodanwydd, a datblygiadau amaethyddol fel cnydau GM ac ‘uwch-laethdai’. Mae lleoli prosiectau o’r fath yn aml yn golygu cynrychiolaethau swyddogaethol o ofod gwledig sy’n methu cydnabod disgyrsiau lleol ymwreiddiedig ar wledigrwydd, gan arwain felly at wrthdaro.

Bydd yr ymchwil yn defnyddio theori cyfosodiad i ddadansoddi gwrthdaro o’r fath fel brwydrau rhwng cyfosodiadau byd-eang a chyfosodiadau sy’n seiliedig ar le, a chynhelir ymchwil astudiaeth achos yng Nghymru (yn canolbwyntio ar wrthdaro ynghylch ffermydd gwynt, prosiectau biomas a phrosiectau trydan dŵr, cnydau GM, ac uwch-laethdai), Awstralia (yn canolbwyntio ar frwydrau dros echdynnu nwy siâl ac adnoddau dŵr), Brasil (yn canolbwyntio ar drosi tir ar gyfer tyfu biodanwydd), a Sbaen neu Bortiwgal (yn canolbwyntio ar bŵer gwynt a solar, y cyflenwad dŵr a dyfrhau, ac amaethyddiaeth tŷ gwydr diwydiannol).

Gwybodaeth bellach
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y prosiect ymchwil hwn ar ei flog pwrpasol, y gellir ei gyrchu yma 

Gwrandewch ar Michael Woods, arweinydd y prosiect, yn siarad am y prosiect mewn podlediad yma