Sefydlwyd y Rhwydwaith Ymchwil Cyfranogiad Diwylliannol ym mis Mehefin 2017 gyda chymorth gan Brosiect Ymgysylltu Blaenllaw Cymunedau Cryf, Pobl Iachach Prifysgol Caerdydd dan arweiniad Dr Eva Elliott. Daeth y rhwydwaith ag ystod o unigolion a sefydliadau at ei gilydd yng Nghymru i ddatblygu rhaglen ymchwil yn ymdrin â cyfranogiad diwylliannol a’r hyn mae’n ei olygu i gymunedau, diwylliant, polisi, a llywodraeth yng Nghymru a’r tu hwnt.