Cyflwynir gan Scott Orford, Samuel Jones a Katie Dickson
Mae data’n adnodd allweddol ar gyfer ymchwil ac mae setiau data ac yn cael ei rannu fwyfwy i bobl eraill ei ddefnyddio fel data eilaidd. Fodd bynnag, wrth i fwy o ddata eilaidd ddod ar gael ar-lein, gall dod o hyd i’r data mwyaf perthnasol ar gyfer eich ymchwil fod yn anodd. Bydd y digwyddiad hwn yn tywys cyfranogwyr drwy fanteision defnyddio pyrth data ar y we i ddarganfod setiau data eilaidd sy’n berthnasol i’w prosiect ymchwil. Fel enghraifft o sut i wneud hyn byddwn yn cyflwyno DataPortal WISERD – adnodd rhad ac am ddim i helpu ymchwilwyr i ddarganfod data ynghylch Cymru.
Yn y digwyddiad hwn, byddwch yn dysgu:
1. Ynghylch manteision defnyddio pyrth data fel adnoddau i ddarganfod data eilaidd;
2. Ynghylch y pyrth data allweddol sy’n ddefnyddiol ar gyfer darganfod data sydd ar gael i’r DU;
3. Sut i ddefnyddio porth data, gan ddefnyddio DataPortal WISERD fel enghraifft, i ddarganfod data ar gyfer eich prosiect.
I gael mwy o wybodaeth a chadw eich lle, ewch i wefan NCRM:
NCRM UK DataPortal Presentation
NCRM WISERD DataPortal Workshop Guide
WISERD DataPortal Workshop Example
WISERD DataPortal Catalogue
Dolen i gadw lle