Mae porth data WISERD DataPortal yn gymhwysiad ar y we sy’n gwella gallu ymchwilwyr i chwilio, darganfod, mapio a lawrlwytho data ymchwil economaidd-gymdeithasol sy’n ymwneud â Chymru. Y nod yw annog ymchwilwyr i ailddefnyddio ac ail-bwrpasu data sydd eisoes yn bodoli.
Pwy a’i datblygodd?
Datblygwyd WISERD DataPortal gan Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) fel rhan o’r llinyn Data a Dulliau
Pam y cafodd ei ddatblygu?
Mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth San Steffan a chynghorau ymchwil y DU i gyd yn annog ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol i ddefnyddio ffynonellau data sydd eisoes yn bodoli lle bo hynny’n bosibl. Mae hyn yn cynnwys data arolwg ar raddfa fawr a gasglwyd gan y llywodraeth (e.e. y Cyfrifiad, yr Arolwg o’r Llafurlu, Arolwg Cenedlaethol Cymru); arolygon pwrpasol a gynhaliwyd gan awdurdodau lleol a sefydliadau eraill (e.e. arolygon anghenion tai, Arolwg Oedolion Gweithredol); data gweinyddol a gesglir yn rheolaidd gan sefydliadau amrywiol megis y gymdeithas sifil a grwpiau’r trydydd sector fel rhan o’u swyddogaethau beunyddiol (e.e. data gwirfoddoli, ffigurau digartrefedd, data ar grwpiau dan anfantais); a data a gasglwyd gan ymchwilwyr y brifysgol ar brosiectau a ariennir.
Un mater gwirioneddol o ran defnyddio’r data hyn yw diffyg gwybodaeth am ba ddata sydd ar gael, p’un a yw’n addas at ddiben yr ymchwil arfaethedig, a sut i gyrchu’r data. Dyluniwyd Porth Data WISERD i’w gwneud yn haws ateb rhai o’r cwestiynau hyn drwy ddarparu mynediad at fetadata cyfoethog sy’n cydymffurfio â safonau ar amrywiaeth eang o ffynonellau data a chaniatáu i ymchwilwyr chwilio’r metadata.
Cyrchu Porth Data WISERD
Gellir dod o hyd i Borth Data WISERD yn http://data.wiserd.ac.uk/.
Bydd yn ofynnol i chi ymgofrestru er mwyn defnyddio’r porth data. Defnyddir yr wybodaeth hon at ddibenion monitro.
Sut mae’n gweithio?
Ysgrifennwyd Porth Data WISERD gan ddefnyddio meddalwedd ffynhonnell agored sy’n rhad ac am ddim ac mae’n rhedeg yn eich porwr gwe. Rydym yn argymell defnyddio Google Chrome er mwyn cael y profiad gorau er ei fod yn gydnaws â’r holl borwyr prif ffrwd. Mae hefyd wedi’i gynllunio i redeg ar nifer o lwyfannau, gan gynnwys llechi a dyfeisiau symudol.
Beth mae’n ei wneud?
Mae gan Borth Data WISERD dair prif swyddogaeth fel a ganlyn:
i. Chwilio metadata
Mae hyn yn galluogi’r defnyddiwr i ddefnyddio allweddeiriau i chwilio am fetadata sy’n cydymffurfio â safonau, a’i ddarganfod, ar gyfer ystod eang o arolygon a gynhaliwyd gan y llywodraeth a sefydliadau eraill, gan gynnwys WISERD. Mae’r metadata’n cynnwys cwestiynau a ofynnwyd, categorïau ymateb, meintiau samplau, y daearyddiaethau y mae’r data ar gael ynddynt, a sut y gellir cyrchu’r data ffynhonnell.
ii. Mapio a lawrlwytho data
Mae hyn yn darparu offer i fapio amrywiaeth o ddata economaidd-gymdeithasol, pwyntiau o ddiddordeb a data ffiniau ar gyfer Cymru, ac i allforio’r map a lawrlwytho’r data ar gyfer ei ddadansoddi ymhellach.
iii. Mapio fy nata
Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl i ddefnyddwyr fapio eu data eu hunain ar gyfer ardaloedd yng Nghymru ac i allforio hyn fel map y gellir ei gyhoeddi. Dyluniwyd y swyddogaeth hon yn arbennig fel bod yr holl waith mapio’n digwydd y tu mewn i borwr y defnyddiwr yn hytrach nag ar weinydd Porth Data WISERD. Mae hyn yn golygu nad yw data a allai fod yn sensitif yn gadael peiriant y defnyddiwr.
Achos defnyddiwr
Mapiwr Etholaethau Senedd Cymru
Fel rhan o’n gwaith gyda Senedd Cymru, datblygwyd rhyngwyneb pwrpasol ar gyfer Porth Data WISERD sy’n ei gwneud yn bosibl i staff ymchwil y Senedd, ac Aelodau’r Senedd a’u staff cymorth gyrchu a mapio amrediad eang o ddata ar gyfer etholaethau a rhanbarthau Senedd Cymru. Gellir cyrchu’r rhyngwyneb yma.
Beth nesaf?
Mae Porth Data WISERD yn cael ei ddatblygu ymhellach ar gyfer grwpiau cymdeithas sifil a sefydliadau’r trydydd sector sy’n dymuno gwella’u defnydd o ddata yn eu hymchwil..
Cymerwch ran
Bydd WISERD yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ar gyfer grwpiau defnyddwyr a digwyddiadau hyfforddi dros y misoedd nesaf. Os oes gennych ddiddordeb yn natblygiadau Porth Data WISERD ac yr hoffech gymryd rhan, anfonwch e-bost at Scott Orford yn OrfordS@caerdydd.ac.uk.