Cyhoeddiadau

Trefnu yn ôl: |
Dychwelodd eich chwiliad 245 canlyniad
Front page of report with image of people holding signs and banners
Ydy’r llanw wedi troi i undebau llafur?

Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar dueddiadau allweddol o ran aelodaeth undebau a chanfyddiadau o ran y dylanwad sydd gan undebau. Mae hefyd yn archwilio’r galw am gynrychiolaeth undebau ymhlith y rhai a gyflogir mewn gweithleoedd nad ydyn nhw’n undebau a sut mae’r gofynion hyn yn amrywio rhwng gwahanol is-grwpiau poblogaeth. Mae’r cynnwys hwn ar…

Front page of report with image a group of robots programming each other
Beth sy’n ysgogi deallusrwydd artiffisial a mabwysiadu roboteg?

Mae cynnydd deallusrwydd artiffisial (AI) a roboteg yn y gweithle wedi sbarduno dadleuon am eu potensial i drawsnewid sut rydyn ni’n gweithio, yn dysgu ac yn rhyngweithio. Yng ngoleuni hyn, mae’r adroddiad hwn yn trin a thrafod esblygiad digideiddio gwaith ers y 1990au, ffactorau deallusrwydd artiffisial a mabwysiadu roboteg yn 2023/2024, a sut mae mabwysiadu…

Front cover of report with image of a group of people standing on coin towers of varying heights
Ydy’r bwlch rhwng y rhywiau o ran ansawdd swyddi’n lleihau?

Mae’r adroddiad hwn yn trin a thrafod a yw’r bwlch rhwng y rhywiau o ran ansawdd swyddi yn ehangu neu’n lleihau mewn chwe maes penodol: Ansawdd Amser Gweithio, Enillion Wythnosol, Sicrwydd yn y Swydd, Annibyniaeth a Sgil, yr Amgylchedd Ffisegol a Dwysedd Gwaith. Mae’r adroddiad yn creu mynegeion ac yn olrhain y bwlch rhwng y…

First page of the report with image of a group of people working from sofas
Ydy gweithio yn y swyddfa yn dod i ben?

Mae’r adroddiad hwn yn trin a thrafod tueddiadau hanesyddol yn y rhai sy’n gweithio gartref (gweithwyr gartref) yn unig a’r rhai sy’n gweithio’n rhannol yn y swyddfa ac yn rhannol gartref (gweithwyr hybrid). Mae’n nodi pa grwpiau sydd wedi’u heffeithio fwyaf/lleiaf ac mae’n amlygu’r ffactorau sydd wedi’u cysylltu’n agos â gallu gweithwyr i neilltuo mannau…

WISERD Education Multi-Cohort Study - 12th Annual Survey - report front cover
Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD 12fed Arolwg Blynyddol Adroddiad Blynyddol | 2023-24

Mae Astudiaeth Aml-Garfan WISERD (WMCS) yn astudiaeth hydredol flynyddol i gofnodi cynnydd plant a phobl ifanc sy’n tyfu i fyny yng Nghymru. Bob blwyddyn, rydym yn dilyn tair carfan o ysgolion ledled Cymru ac yn gofyn cwestiynau am eu profiadau o’r ysgol a’u safbwyntiau ar faterion cenedlaethol a rhyngwladol. Yma, rydym yn darparu crynodeb o…